Newyddion

Barclay_Davies_Bus_Users_Cymru_MBE

Cyfarwyddwr Bus Users yng Nghymru yn cael OBE yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd

05 Ionawr 2022

Mae Barclay Davies, Cyfarwyddwr Bus Users yng Nghymru, wedi cael OBE yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd y Frenhines ar gyfer 2022.

Datganiad i’r wasg gan Bus Users yw hwn.

 

Fel Cyfarwyddwr Bus Users yng Nghymru, mae Barclay wedi hwyluso dros 200 o ddigwyddiadau sydd wedi dod â theithwyr a darparwyr trafnidiaeth leol ynghyd. Mae wedi bod yn cynrychioli teithwyr a chymunedau lleol gerbron y sawl sy’n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau, ac mae wedi bod yn hyrwyddo bysiau fel dull o hybu newid er mwyn gwella ansawdd aer a lleihau tagfeydd traffig.

Yn ystod y pandemig, buodd Barclay a’i dîm yn ymgyrchu dros gael cymorth i weithredwyr er mwyn i deithwyr allu parhau i wneud teithiau hanfodol, a buodd yn hyrwyddo neges #ByddwchYnGaredigArYBws #BeBusKind Bus Users ymhlith gweithredwyr a theithwyr gan ofyn i bobl barchu ei gilydd wrth deithio, yn enwedig y sawl nad ydynt yn gallu gwisgo gorchudd wyneb.

 

Meddai Barclay Davies, ar ôl cael ei anrhydeddu am ei wasanaethau i drafnidiaeth gyhoeddus a’r llywodraeth:

“Mae cael yr anrhydedd hon yn fraint enfawr. Rwy’n ffodus o fod yn gweithio gyda llawer o gydweithwyr dawnus, ac mae’r anrhydedd hon yn gydnabyddiaeth iddyn nhw ac i waith Bus Users hefyd. Mae’n gyfnod cyffrous i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, yn dilyn lansio Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn ddiweddar ynghyd â chamau i wella ansawdd aer, datgarboneiddio cerbydau trafnidiaeth a gwella opsiynau o ran trafnidiaeth gyhoeddus i bawb. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i fod yn eiriolwr dros deithwyr bysiau ac at geisio dod â phobl a chymunedau ynghyd drwy drafnidiaeth hygyrch a chynhwysol.”

 

Meddai Prif Weithredwr Bus Users, Claire Walters, wrth groesawu’r anrhydedd:

“Rydym wrth ein bodd bod gwaith Barclay yn cael ei gydnabod fel hyn. Mae ein hymgyrchoedd, ein gwasanaethau Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod, a’n gwaith i fonitro’r graddau y mae gweithredwyr bysiau’n cydymffurfio â’u rhwymedigaethau wedi arwain at newid go iawn ac at wasanaethau gwell i deithwyr ledled Cymru. Bydd Barclay a’i dîm yn parhau i geisio gwella mynediad i drafnidiaeth gynhwysol a chynaliadwy a sicrhau’r holl fanteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd sy’n dod yn sgil hynny.”

 

Mae Bus Users yn gorff cymeradwy Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod ar gyfer teithwyr bysiau, a dyma’r corff sy’n ymdrin â chwynion dan ddeddfwriaeth ynglŷn â hawliau teithwyr ar fysiau. Rydym hefyd yn perthyn i Gynghrair Trafnidiaeth Gynaliadwy, sef grŵp sy’n ceisio hyrwyddo manteision trafnidiaeth gyhoeddus a manteision teithio ar y cyd a theithio llesol.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Bus Users

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon