Newyddion

Cardiff_Bus_Timetable_Reduction_January_2022

O 10 Ionawr ymlaen, bydd Bws Caerdydd yn gweithredu amserlenni dydd Sadwrn o ddydd Llun i ddydd Gwener oherwydd effaith yr amrywiolyn Omicron

06 Ionawr 2022

Mae’r penderfyniad hwn wedi’i wneud er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith yn sefydlog ac yn ddibynadwy.

Datganiad i’r wasg gan Bws Caerdydd yw hwn.

 

Fel yn achos llawer o fusnesau eraill, mae amrywiolyn Omicron Covid-19 wedi arwain at fwy o salwch ac yn golygu bod staff yn gorfod hunanynysu. Mae hynny’n golygu llawer o bwysau ar allu’r gweithredwr i ddarparu gwasanaethau i’r graddau a ddisgwylir gan gwsmeriaid.

Er mwyn sicrhau bod rhwydwaith Bws Caerdydd yn sefydlog ac yn ddibynadwy mae’r cwmni wedi cyhoeddi y bydd, o ddydd Llun 10 Ionawr 2022 ymlaen, yn gweithredu gwasanaeth dydd Sadwrn o ddydd Llun i ddydd Gwener. Dyma’r eithriadau i’r gwasanaeth dydd Sadwrn a fydd ar waith o ddydd Llun i ddydd Gwener:

  • Gwasanaethau ysgol: O ddydd Iau 7 Ionawr ymlaen, bydd pob gwasanaeth ysgol yn dilyn ei amserlen arferol o ddydd Llun i ddydd Gwener.
     
  • Gwasanaeth 15: Bydd bysiau 05:59 (o Heol y Porth) a 06:57 (o Windway Road) o ddydd Llun i ddydd Gwener i Ysbyty’r Waun yn parhau i weithredu. 
  • Service 27: 05:30 journey from Thornhill to the city centre and a return journey at 05:55 from city centre to Thornhill will run Mondays to Fridays only.
     
  • Service 51: The Monday to Friday departure from Queenwood at 07:15 to Heath Hospital and city centre will continue to run. 
     
  • Services 65/65A: The Monday to Friday morning and afternoon journeys which serve Eastern High School will continue to run.
  • Bydd gwasanaeth 93 yn teithio o Gaerdydd i Murch drwy Benarth o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig, a hynny bob 90 munud fwy neu lai. Bydd bysiau i Murch yn dilyn eu llwybr arferol i Ysgol Fabanod Dinas Powys, ac yna’n teithio ar hyd Cardiff Road ac yn troi i’r chwith i mewn i Murch wrth Cross Common Road. Bydd bysiau i Benarth a Chaerdydd yn dilyn eu llwybr arferol o Cross Common Road, Longmeadow Drive a Swyddfa Bost Murch.
     
  • Service 94: The Monday to Friday departure from Barry King Square at 06:38 to Cardiff will continue to run. 
     
  • Service 97A: 07:35 journey from Winston Square & 07:53 from King Square will run Mondays to Friday only. 
  • Bydd gwasanaeth 98 yn parhau i ddilyn ei amserlen arferol o ddydd Llun i ddydd Gwener.
     
  • Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio H59 Ysbyty’r Waun yn parhau i ddilyn ei amserlen arferol o ddydd Llun i ddydd Gwener.
     
  • Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio H95 Ysbyty Llandochau yn parhau i ddilyn ei amserlen arferol o ddydd Llun i ddydd Gwener.
     
  • Bydd gwasanaeth M1 METRider yn dilyn ei amserlen arferol o ddydd Llun i ddydd Gwener.

 

Due to the large scale and short notice of the following changes, we will not be able to update our Journey Planner and Timetables page by 10th January. Please:

  • Refer to the Cardiff Bus website
  • Or refer to the 'Saturday' tab on your service timetable, but please double check the below information for exceptions and alternative timetables (as some services are running as normal, or a Saturday timetable with additional journeys).

 

Hoffai Bws Caerdydd ymddiheuro’n ddiffuant am unrhyw anghyfleustra y gallai’r newid hwn ei achosi a hoffai ddiolch i’w holl gwsmeriaid am eu parodrwydd i ddeall wrth i Bws Caerdydd geisio ymdopi â’r amgylchiadau hyn.

Gofynnir i gwsmeriaid barhau i helpu i gadw eu cyd-deithwyr a chydweithwyr Bws Caerdydd yn ddiogel drwy ddilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru. Mae hynny’n cynnwys gwisgo gorchudd wyneb dros eich trwyn a’ch ceg tra byddwch yn teithio (oni bai eich bod wedi eich eithrio), gadael ffenestri’n agored er mwyn gwella’r awyru, defnyddio’r seddi sy’n wynebu tuag ymlaen yn unig ac eistedd i deithio.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Bws Caerdydd

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon