Newyddion

Nextbike-Relaunch-In-Cardiff-Vale-Area-January-2022

Nextbike yn ailddechrau yng Nghaerdydd gyda mesurau newydd ar waith yn dilyn fandaliaeth ac achosion o ddwyn

13 Ionawr 2022

Roedd y cynllun wedi’i atal dros dro am ddau fis yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ond mae wedi ailddechrau ers 13 Ionawr.

Mae OVO Bikes, sy’n rhan o gynllun llogi beiciau Nextbike, wedi ailgyflwyno ei ddarpariaeth ym maes teithio cynaliadwy i gymunedau ledled Caerdydd a’r Fro, ar ôl i’r cynllun gael ei atal dros dro’n ôl ym mis Tachwedd 2021 oherwydd fandaliaeth ac achosion o ddwyn.

Bydd OVO Bikes yn lansio fflyd lai ar y dechrau, sy’n cynnwys 400 o feiciau, a bydd yn canolbwyntio ar y gorsafoedd sy’n cael eu defnyddio fwyaf. Bydd nifer y beiciau’n cynyddu yn ystod y ddau fis nesaf wrth i’r cwmni gyflwyno beiciau ychwanegol, fel bod y fflyd yn cynnwys bron 900 o feiciau. 

Mae pob un o orsafoedd OVO Bikes wedi cael eu hadolygu er mwyn chwilio am ffyrdd o wella diogelwch beiciau a beicwyr. Bydd 11 o orsafoedd e-feiciau newydd yn cael eu gosod yng Nghaerdydd a’r Fro, yn ogystal â dwy orsaf feiciau gyffredin newydd, a fydd yn golygu bod rhentu a dychwelyd beiciau i orsafoedd swyddogol yn fwy cyfleus o lawer. 

Roedd yr adolygiad hwn hefyd yn cynnwys dadansoddi gorsafoedd nad oeddent yn cael eu defnyddio ryw lawer ac a oedd yn fwy tebygol o gael eu targedu gan droseddwyr. Dyma’r pedair gorsaf y mae’r cwmni wedi gorfod eu cau ond bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu’n gyson yn y dyfodol:

 

Y gorsafoedd sy’n cael eu cau:

  • Stacey Road: Gorsaf 83200 Yr orsaf gyffredin agosaf yw Waterloo Road: Gorsaf 8351
  • Canolfan Star – Y Sblot: Gorsaf 8347 Yr orsaf gyffredin agosaf yw Splott Road: Gorsaf 8399
  • Heol Casnewydd: Gorsaf 8371 Yr orsaf gyffredin agosaf yw New Road, Tredelerch: Gorsaf 8381
  • Brachdy Road, Tredelerch: Gorsaf 8382 Yr orsaf gyffredin agosaf yw Gorsaf Heddlu Tredelerch: Gorsaf 8380

 

Bydd y sefydliad yn cefnogi mentrau lleol ac yn gweithio gydag 20+ o sefydliadau - gan gynnwys Heddlu De Cymru - drwy bartneriaeth newydd, sef Partneriaeth Lleihau Troseddau Beiciau Caerdydd, er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r problemau cyffredin yn ymwneud â throseddau beiciau, y mae Caerdydd a’r Fro yn eu hwynebu.

Yn rhan o hynny, mae’n cydweithio’n agos â Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Caerdydd i gysylltu â phobl ifanc er mwyn codi ymwybyddiaeth o werth OVO Bikes i’r gymuned leol ac er mwyn datblygu rhaglenni i’w hannog i werthfawrogi beicio fel gweithgaredd.

 

Gallwch gael gwybod mwy am y modd y mae’r cynllun yn cael ei ailgyflwyno, gan gynnwys newidiadau i’r telerau defnyddio, ar wefan Nextbike.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Nextbike

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon