Newyddion

Cardiff-Bus-Electric-Vehicles-To-Launch-January-2022

Bws Caerdydd yn cyhoeddi y bydd yn lansio ei fysiau trydan y mis hwn

14 Ionawr 2022

Bydd y 36 o fysiau trydan heb allyriadau yn helpu i greu system drafnidiaeth lân a chynaliadwy yn y brifddinas.

Roedd y newyddion y byddai’r cerbydau newydd yn cyrraedd i’w weld ar draws sianelau’r gweithredwr ar gyfryngau cymdeithasol Nos Galan. Ar fideo hyrwyddo, gwelwyd lluniau o’r bysiau trydan newydd gyda slogan a oedd yn datgan bod Caerdydd ar fin cael bysiau trydan. Ar ddiwedd y fideo, soniwyd y byddai’r bysiau yn cael eu lansio ym mis Ionawr 2022.

Cynhaliodd Bws Caerdydd ddigwyddiad lansio ddydd Gwener 14 Ionawr y tu allan i Lyfrgell Ganolog Caerdydd er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd weld dau o’r cerbydau trydan newydd yn agos.

Bydd y cerbydau newydd yn helpu i greu system drafnidiaeth lân a chynaliadwy, gwella ansawdd yr aer a lleihau llygredd sŵn ar ffyrdd Caerdydd.

 

Cafodd newidiadau mawr eu cynnig y llynedd er mwyn gwella gwasanaethau bws Caerdydd ar gyfer trigolion y ddinas a chymudwyr, yn rhan o strategaeth newydd y bwriedir iddi ddyblu nifer y bobl sy’n defnyddio bysiau yng Nghaerdydd erbyn 2030.

Roedd y strategaeth naw pwynt, yr oedd ymgynghoriad cyhoeddus a lansiwyd gan Gyngor Caerdydd yn rhan ohoni, yn cynnwys cynlluniau megis cyflwyno tocynnau mor rhad â £1, creu coridorau ‘clyfar’ newydd sy’n rhoi blaenoriaeth i fysiau, a chynyddu nifer y bysiau di-garbon sydd ar y ffyrdd.

Yn ôl yn 2019, cyhoeddwyd y byddai Caerdydd yn cael fflyd newydd o 36 o fysiau trydan yn sgil buddsoddiad gwerth tua £5.7 miliwn gan Lywodraeth y DU.

 

Ym mis Ebrill 2021, cadarnhaodd Bws Caerdydd ei fod wedi archebu 36 o’r bysiau batri-trydan diweddaraf drwy gynllun buddsoddi sy’n gydweithrediad rhwng y cwmni bysiau a’i gyfranddaliwr, Cyngor Caerdydd.

Yn ôl Bws Caerdydd, cyrhaeddodd y bysiau’r ddinas ym mis Tachwedd 2021. Roedd gwaith ar y gweill ar y pryd i osod y seilwaith gwefru newydd yn nepo’r gweithredwr bysiau yn Sloper Road, er mwyn paratoi ar gyfer yr adeg pan fyddai’r bysiau Yutong E12 heb allyriadau’n cyrraedd.

Mae’r cwmni bysiau wedi dweud hefyd y bydd y bysiau trydan newydd nid yn unig yn fwy caredig i’r amgylchedd ond hefyd yn fwy cyfforddus ac yn dawelach i gwsmeriaid. Maent hefyd yn cynnwys cyfleusterau sy’n darparu gwybodaeth y gellir ei gweld a’i chlywed am yr ‘arhosfan nesaf’, yn ogystal â phyrth USB.

 

Caiff cwsmeriaid eu hatgoffa bod Bws Caerdydd yn gweithredu amserlenni wedi’u cwtogi ar hyn o bryd oherwydd effaith barhaus yr amrywiolyn Omicron. Mae’r manylion i’w cael yma.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: WalesOnline

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon