Newyddion

RCT-Transport-Hub-Construction-Work-Begins-January-2022

Gwaith adeiladu ar fin dechrau i greu Hwb Trafnidiaeth Porth

14 Ionawr 2022

Mae’r datblygiad yn cynnwys hwb trafnidiaeth modern yng nghanol y dref, a fydd yn galluogi pobl i deithio’n hwylus ar fysiau a threnau.

Dyma ddatganiad i’r wasg gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

 

Cyn bo hir, bydd gwaith yn dechrau i adeiladu Hwb Trafnidiaeth Porth a chreu cyfnewidfa integredig fodern i’r dref ar gyfer gwasanaethau bws a thrên – bydd y gwaith cychwynnol o baratoi’r safle yn dechrau’r wythnos nesaf a bydd gweddill y gwaith yn cael ei gwblhau y flwyddyn nesaf. 

Bydd y datblygiad yn yr orsaf reilffordd bresennol, a bydd yn cynnwys hwb trafnidiaeth modern a deniadol yng nghanol y dref, a fydd yn galluogi pobl i deithio’n hwylus ar fysiau a threnau. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan, safle tacsis, mannau storio beiciau a gwelliannau i’r rhwydwaith teithio llesol lleol.

Yn ddiweddar, mae’r Cyngor wedi cael £3.5 miliwn gan Lywodraeth y DU i greu’r hwb. Cafodd y cyllid ei gyhoeddi’n rhan o Gronfa Codi’r Gwastad yn ystod mis Hydref 2021.

Encon Construction Ltd yw’r contractwr sydd wedi’i benodi i gyflawni’r cynllun, a bydd y cyfnod adeiladu’n dechrau ddydd Llun 17 Ionawr – gan ddechrau gyda’r gwaith cychwynnol o baratoi’r safle. Yn ôl y contractwr, bydd unrhyw weithgarwch ar y safle’n digwydd rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8am ac 1pm ar ddydd Sadwrn. Disgwylir y bydd y cyfnod adeiladu’n dod i ben yn ystod gwanwyn 2023.

Bydd traffig i’r safle yn teithio ar hyd Porth Street a Station Street, a bydd llawer o weithwyr adeiladu a pheiriannau ar y safle – bydd nwyddau’n cael eu cludo yno’n rheolaidd. Bydd hynny’n golygu bod mwy o gerbydau sy’n gysylltiedig â’r gwaith adeiladu’n teithio drwy ganol tref Porth.

Bydd gweithrediadau ar y platfform presennol yn parhau fel arfer, ond bydd y bont droed i’r platfform ar gyfer trenau sy’n teithio i gyfeiriad y de ar gau tra bydd y datblygiad yn mynd rhagddo. Dylai defnyddwyr yr orsaf drenau ddilyn y cyfarwyddiadau sydd wedi’u rhoi ar arwyddion. Bydd y contractwr yn ysgrifennu at fusnesau a thrigolion lleol yn fuan i’w gyflwyno ei hun, esbonio’r prosiect a darparu manylion cyswllt ar gyfer y safle.

 

Meddai’r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai:

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn o safbwynt creu Hwb Trafnidiaeth Porth a fydd yn gyfleuster modern. Mae dechrau’r cyfnod adeiladu wedi’i gadarnhau yn awr, yn fuan iawn ar ôl i’r Cyngor gael cyllid gwerth £3.5 miliwn ar gyfer y prosiect ac ar ôl i gontractwr gael ei benodi.

“Yr hwb trafnidiaeth yw prif brosiect strategaeth ehangach, sef Strategaeth Adfywio Porth. Bydd yn manteisio ar safle’r dref fel porth i’r Rhondda Fach a’r Rhondda Fawr, ac yn manteisio hefyd ar y gwasanaethau trên mwy mynych a fydd yn cael eu cynnig gan Fetro De Cymru o 2024 ymlaen. Drwy ddod â gwasanaethau bws a thrên ynghyd, bydd darpariaeth well o ran trafnidiaeth gyhoeddus yn helpu trigolion i gael mynediad i wasanaethau lleol, cyflogaeth a gwasanaethau tai.

“Mae’r Strategaeth Adfywio ehangach wedi dod â nifer o brosiectau lleol pwysig ynghyd – prosiect troi’r Porth Plaza yn Ganolfan Gymunedol, ymestyn y ddarpariaeth Parcio a Theithio, gwneud gwelliannau i dir cyhoeddus, helpu landlordiaid a busnesau i wella tu blaen eu heiddo drwy’r Grant Cynnal a Chadw Canol y Dref, a darparu Wi-Fi cyhoeddus sy’n rhad ac am ddim.

“Rwy’n falch bod y gwaith o adeiladu Hwb Trafnidiaeth Porth yn dechrau’r wythnos nesaf, gyda’r gwaith o baratoi’r safle yn dechrau ddydd Llun. Bydd y Cyngor yn cydweithio’n agos â’i gontractwr i sicrhau bod y gwaith yn tarfu cyn lleied ag sy’n bosibl ar y gymuned – mae’n debygol y bydd mwy o draffig sy’n gysylltiedig â’r gwaith adeiladu’n teithio drwy ganol y dref – tra byddwn yn cyflawni gwelliannau sylweddol i drafnidiaeth gyhoeddus, y bydd y dref yn elwa ohonynt yn y dyfodol.”

 

Cymeradwyodd Aelodau’r Cabinet y cynigion ar gyfer Hwb Trafnidiaeth Porth yn 2019 yn dilyn proses ymgynghori helaeth, a chafwyd caniatâd cynllunio llawn ym mis Mawrth 2021. Mae tri adeilad (Canolfan Ddydd Alec Jones, Banc Barclays a Meddygfa Porth Farm) wedi’u dymchwel er mwyn paratoi’r safle.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Cyngor Rhondda Cynon Taf

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon