Newyddion

Community-Transport-Association-Appoints-New-Director-For-Wales

Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn penodi Cyfarwyddwr parhaol yng Nghymru

17 Ionawr 2022

Mae Gemma Lelliott wedi bod yn rhan o’r sefydliad ers 3 blynedd ac wedi bod yn Gyfarwyddwr Interim yng Nghymru yn ystod y 6 mis diwethaf.

Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol wedi penodi Gemma Lelliot yn Gyfarwyddwr newydd y sefydliad yng Nghymru. Mae’n cymryd yr awenau oddi wrth Rachel Burr sydd wedi cael swydd newydd gyffrous fel Cyfarwyddwr Diabetes UK.

Mae Gemma wedi bod yn Gyfarwyddwr Interim yng Nghymru yn ystod y 6 mis diwethaf, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi bod yn dilyn map trywydd y sefydliad (a grëwyd gyda chymorth aelodau’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol) er mwyn hybu gwaith ym maes polisi a materion cyhoeddus yn ogystal â phrosiectau gweithredol a phrosiectau datblygu.

O ganlyniad mae’r sefydliad wedi cymryd rhai camau breision i sicrhau cyllid newydd, dylanwadu ar bobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau, a pharhau i feithrin cydberthnasau, ac mae’n gobeithio y bydd hynny’n arwain at fwy fyth o gyfleoedd i ehangu rhwydwaith Cymru o gludiant hygyrch a chynhwysol.

Daw’r penodiad wrth i Gemma gwblhau ei thrydedd flwyddyn gyda’r sefydliad. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi ymgysylltu’n helaeth ag aelodau, partneriaid, rhanddeiliaid a chyllidwyr y sefydliad.

 

Meddai Gemma Lelliott, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru:

“Rwyf wrth fy modd o allu dweud fy mod wedi cael fy ngwahodd i ymgymryd yn barhaol â swydd y Cyfarwyddwr yng Nghymru. Fel y gallwch ddychmygu, fe wnes i dderbyn y swydd yn raslon (ond yn llawn cyffro hefyd!). Rwy’n dwlu ar y swydd hon. Rwy’n dwlu gweithio i’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol gyda’r tîm gwych hwn, ac rwy’n dwlu dod o hyd i ffyrdd o ddarparu’r cymorth iawn yn y mannau iawn i grwpiau, mudiadau a sefydliadau sy’n gwneud eu gorau glas er budd eu cymunedau.

Rwy’n falch iawn bod Bill a’r bwrdd ymddiriedolwyr wedi ymddiried ynof ac rwy’n teimlo bod gen i’r sgiliau, y profiad a’r agwedd gywir i barhau i weithio ochr yn ochr â gweithredwyr, partneriaid a rhanddeiliaid i ddarparu system gludiant yng Nghymru sy’n gweithio o ddifrif i bawb.”

 

Gallwch gael gwybod mwy am waith y Gymdeithas Cludiant Cymunedol ledled Cymru a thu hwnt yma.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon