Newyddion

TfW-175-Fleet-Refurbishment-Completion-January-2022

TrC yn dathlu cwblhau gwaith adnewyddu gwerth £40m ar drenau Class 175

24 Ionawr 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn dathlu cwblhau gwaith i adnewyddu ei fflyd o drenau pellter hir – y Class 175.

Dyma ddatganiad i’r wasg gan Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

 

Mae’r gwneuthurwr trenau Alstom wedi bod wrthi'n adnewyddu 27 o drenau Coradia yn eu Canolfan Dechnoleg yn Widnes, Swydd Caer, fel rhan o fuddsoddiad £40m TrC yn ei fflyd bresennol o drenau.

Ers i'r trên cyntaf ailddechrau gwasanaeth yn haf 2019, mae cwsmeriaid wedi bod yn elwa o gyfleusterau gwell, gan gynnwys pwyntiau gwefru USB a thrydan, seddi toiled newydd sbon, seddi wedi'u hail-orchuddio, carpedi newydd a gosodiadau mewnol newydd. Ma e'r trenau hefyd wedi cael eu hailfrandio ar y tu allan gyda lifrai llwyd a choch TrC.

Y Class 175 yw asgwrn cefn gwasanaethau cyflym Trafnidiaeth Cymru, gan weithredu ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau drwy Dde, Gogledd a Gorllewin Cymru a’r Gororau.  Mae adnewyddu’r trenau hyn yn un rhan o raglen adnewyddu gwerth £40 miliwn Trafnidiaeth Cymru – mae’r gwaith o adnewyddu’r fflydoedd Class 153 a Class 158 bron ar ben, ac mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i adnewyddu’r trenau Sprinter Class 150.

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn buddsoddi dros £800 miliwn ar fflyd o drenau newydd sbon, a fydd yn dechrau dod i wasanaeth ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn ddiweddarach yn 2022.

 

Dywedodd Stuart Mills, Rheolwr Peirianneg Fflyd TrC: 

“Mae'n wych gallu cyflawni'r gwelliannau hyn i gwsmeriaid, y maent yn disgwyl eu gweld, a hynny'n gwbl briodol, ar rwydwaith rheilffyrdd modern.  Rydyn ni'n gwybod bod gallu teithio'n gyfforddus a gallu gwefru dyfeisiau wrth deithio yn hynod o bwysig i'n cwsmeriaid, p'un a ydyn nhw'n teithio am 20 munud neu bedair awr, ar gyfer busnes neu bleser. 

Tra ein bod yn adeiladu trenau newydd sbon, maent yn cymryd amser i'w hadeiladu ac rydym am i'n cwsmeriaid gael profiad cyfforddus o'r dechrau'n deg.  Felly mae cwblhau’r gwaith helaeth hwn yn gam mawr arall i adeiladu rheilffordd well ar gyfer cenedlaethau hen a newydd.”

 

Dywedodd Peter Broadley, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Alstom:

“Mae’n newyddion gwych i Trafnidiaeth Cymru a’i gwsmeriaid ein bod wedi cwblhau’r gwaith o adnewyddu fflyd gyfan Coradia yn ôl y bwriad, ac mae’n deyrnged i waith caled a phroffesiynoldeb ein tîm yn Widnes, a Chaer lle mae’r trenau’n cael eu cynnal.” 

 

Dywedodd David Jordan, Prif Swyddog Gweithredol Angel Trains:

“Wedi bron i dair blynedd, mae’n wych gweld ein huned Class 175 o’r diwedd wedi’i hailwampio’n llwyr ac yn barod i ddychwelyd i’r cledrau.  Mae wedi bod yn bleser gwych gweithio gyda’n partneriaid yn y busnes ar y gwaith ailwampio hwn o’r fflyd, gan gydweithio i greu trenau modern sy’n addas at ddiben teithwyr TrC.”

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon