Newyddion

Arriva-Buses-Wales-Tap-On-Tap-Off-Payment-Scheme

Cynllun talu digyffwrdd ‘Tapio Unwaith, Tapio Eilwaith’ ar gael yn awr ar fysiau Arriva yng Nghymru

31 Ionawr 2022

Arriva yn lansio cynllun talu digyffwrdd ‘Tapio Unwaith, Tapio Eilwaith’ yn y gogledd – a fydd yn cynnig ffordd newydd hawdd a sydyn i gwsmeriaid dalu’r pris gorau am eu teithiau ar fysiau. 

Mae pobl sy’n teithio ar fysiau Arriva yn y gogledd ac ar draws y ffin yn ôl ac ymlaen i Gaer* yn medru elwa erbyn hyn o’r cynllun ‘Tapio Unwaith, Tapio Eilwaith’ (‘Tap On-Tap Off’ (TOTO)), sy’n galluogi oedolion i gadw golwg ar eu gwariant drwy ddulliau talu digyffwrdd ac sy’n sicrhau cap dyddiol ac wythnosol ar bris teithiau. 

Yn dilyn yr ymgyrch llwyddiannus i gyflwyno dulliau talu digyffwrdd ar bob un o fysiau Arriva yn 2019, mae Arriva wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru i osod ail ddarllenydd cardiau digyffwrdd ar ei fflyd o dros 170 o fysiau sy’n gwasanaethu’r gogledd.

 

Mae’r syniad yn un syml – rydych yn defnyddio cerdyn credyd/debyd neu’n defnyddio Google Pay neu Apple Pay i dapio peiriant tocynnau eich gyrrwr wrth fynd ar y bws, ac yna yn tapio’r ail ddarllenydd cardiau wrth fynd oddi ar y bws, ac mae Arriva wedyn yn cyfrifo pa bris sydd orau i chi fel oedolyn.

Os yw’n rhatach i chi dalu am docyn unffordd, tocyn diwrnod neu docyn wythnos, bydd Arriva yn capio’r pris y byddwch yn ei dalu ar lefel y pris sy’n gywir ar gyfer y teithiau yr ydych wedi’u gwneud. Gall cwsmeriaid deithio’n rhydd, a bydd tâl yn cael ei godi’n awtomatig arnynt am eu taith.

Os bydd cwsmeriaid yn teithio sawl gwaith mewn diwrnod, bydd pris eu teithiau’n cael ei gapio ar lefel pris tocyn diwrnod i oedolyn. Os bydd pobl yn teithio sawl diwrnod yr wythnos, bydd pris eu teithiau’n cael ei gapio ar lefel pris tocyn wythnos i oedolyn. Bydd dileu’r angen i deithwyr ddweud i ble y maent am deithio, a’r angen iddynt dalu wrth fynd ar y bws, yn lleihau’n sylweddol yr amser y mae’n ei gymryd iddynt fynd i mewn i fysiau, a bydd yn sicrhau bod bysiau’n gadael arosfannau yn brydlon a bod gwasanaethau’n glynu wrth eu hamserlenni. Ond cofiwch barhau i gyfarch y gyrrwr wrth i chi fynd ar y bws! Mae’r manylion llawn i’w gweld yma: www.arrivabus.co.uk/tap-on 

 

Meddai Richard Hoare, Cyfarwyddwr Masnachol Arriva:

“Mae’r cynllun ‘Tapio Unwaith, Tapio Eilwaith’ (‘Tap On-Tap Off’ (TOTO)) yn golygu bod teithio ar fysiau’n symlach, a fydd yn rhoi tawelwch meddwl i gwsmeriaid eu bod yn talu’r pris gorau gan Arriva, p’un a ydynt yn teithio unwaith yn unig neu fwy nag unwaith. 

“Mae partneriaeth rhwng Arriva a Trafnidiaeth Cymru wedi arwain at gyflwyno’r cynllun TOTO yn llwyddiannus ar gyfer cynnyrch Arriva, ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein partneriaeth o ran tocynnau bws â gweithredwyr eraill hefyd, drwy ychwanegu tocynnau 1bws at y cynllun TOTO yn ystod 2022.”

 

Meddai James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru

“Rydym wrth ein bodd o fod yn cydweithio ag Arriva drwy rannu ein technoleg a’n dealltwriaeth ar gyfer y cynllun ‘Tapio Unwaith, Tapio Eilwaith’.

“Mae’r cynllun yn cyd-fynd yn berffaith â nodau Trafnidiaeth Cymru, sef sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus mor hygyrch, hwylus a fforddiadwy ag sy’n bosibl i bawb, ac rwy’n siŵr y bydd cwsmeriaid ledled y gogledd a’r gororau yn ei groesawu.”

 

*Yng Nghaer, bydd y cynllun ‘Tapio Unwaith, Tapio Eilwaith’ ar gael ar bob gwasanaeth sy’n mynd yn ôl ac ymlaen i Gymru. Fodd bynnag, ni fydd ar waith ar wasanaethau yng Nghaer sy’n gweithredu yn gyfan gwbl yn Lloegr (gwasanaethau 1/1A, 15, 84 ac X30). Bydd trefniadau arferol ar waith ar gyfer tocynnau ar y gwasanaethau hynny.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Bysiau Arriva Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon