Newyddion

Newport-Free-Travel-Scheme-March-2022

Dim tâl am deithio ar fws yng Nghasnewydd ym mis Mawrth

03 Chwefror 2022

Bydd y cynllun, sy'n cael ei dreialu i annog pobl i deithio mewn ffyrdd mwy cynaliadwy a gwyrddach, ar gael drwy'r dydd, bob dydd drwy gydol mis Mawrth ar wasanaethau bws ar draws ardal awdurdod lleol Casnewydd.

Dyma ddatganiad i’r wasg gan Llywodraeth Cymru.

 

Hwyluswyr y cynllun yw Bwrdd Cyflawni Burns, a sefydlwyd i roi 58 o argymhellion Comisiwn Burns ar waith, bob un yn ceisio rhoi dewis arall i’r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn ne-ddwyrain Cymru fel nad oes gofyn defnyddio’r car preifat.

Mae Adroddiad Blynyddol Cadeirydd Burns a gyhoeddwyd heddiw yn disgrifio’r gwaith gafodd ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf ar y gwelliannau tymor hir i’r brif reilffordd. Mae’n canolbwyntio hefyd ar y mesurau mwy brys sy'n cael eu cymryd i wella’r dewis o gludiant yn yr ardal. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Y treialon cyntaf yng Nghymru gyda storfeydd diogel yng Nghaerdydd a Chasnewydd i gadw beiciau
  • Peilot arloesol i wella’r gwaith cynnal a chadw ar lwybrau beiciau yng Nghaerdydd, i leihau’r risg o sgidio a rhwygo teiars; a
  • Gwella’r llwybrau teithio llesol i orsaf drenau Cyffordd Twnnel Hafren.

Mae'r Bwrdd hefyd wedi agor dau ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddar ar ei gynigion i wella’r cysylltiadau beicio a bysiau rhwng Caerdydd a Chasnewydd a gwella’r ffordd fysiau i orsaf drenau Cyffordd Twnnel Hafren yn Sir Fynwy.

 

Wrth siarad yn ystod ei ymweliad â Depo Bysiau Casnewydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters:

"Ar ôl blwyddyn o weithio'n glos gydag awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru rydym nawr yn dechrau gweld ein cynlluniau ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn y de-ddwyrain yn dwyn ffrwyth.

Mae llawer i'w wneud o hyd, ond rwy'n sicr y byddwn yn dechrau gweld gwelliannau pwysig o fewn y 18 mis nesaf o ran teithio ar fysiau, beicio a cherdded, gyda mwy o newid tuag at drafnidiaeth gynaliadwy, yn enwedig i'r bobl hynny sy'n teithio rhwng Casnewydd a Chaerdydd.

Rwy'n hyderus y bydd y cynllun bws am ddim yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw nid yn unig yn rhoi hwb i'r diwydiant bysiau a'r economi leol, ond hefyd yn annog mwy o bobl i newid i deithio mwy cynaliadwy."

 

Dywedodd yr Athro Simon Gibson CBE Cadeirydd Bwrdd Cyflawni Burns:

"Mae'r adroddiad hwn yn nodi rhai o'r pethau pwysig gafodd eu gwneud ym mlwyddyn gyntaf Bwrdd Cyflawni Burns a'r heriau sy’n parhau i’w wynebu. Rydym yn parhau i lywio ein ffordd o dan amgylchiadau anodd wrth ymdrin ag effeithiau eang Covid-19 sy'n newid trwy’r amser, gyda’r Argyfwng Hinsawdd yn gefndir iddo.

Bydd ein gwaith yn gynyddol bwysig o ran helpu pobl y De-ddwyrain i roi’r gorau i ddefnyddio’u ceir preifat a defnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy ac rydym yn benderfynol o gynnal y lefel honno o ddatblygu a darparu gydol 2022 a thu hwnt."

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:

"Rwy'n croesawu'n fawr penderfyniad Bwrdd Cyflawni Burns a Llywodraeth Cymru i wneud y cynnig hwn a thalu am y cynllun mis o hyd.

Ym mis Rhagfyr, talodd y Cyngor am gynnig tebyg a chael ymateb da gan drigolion a busnesau gyda chynnydd amlwg yn nifer y teithwyr bws o'i gymharu â'r un mis yn 2020.

Mae gan y Cyngor berthynas waith ragorol gyda Bwrdd Cyflawni Burns a hoffwn ddiolch i'r bwrdd a Llywodraeth Cymru am y gefnogaeth bwysig hon i'r ddinas a'i phobl.

Gyda’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd i’w gweld ar wella a’r gwanwyn ar ein gwarthaf, dyma gyfle gwych i bobl roi cynnig ar ffyrdd eraill gwyrddach o deithio ond gan gadw’n lleol i gefnogi busnesau lleol. Bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a theuluoedd sy'n wynebu cynnydd yn eu costau byw wrth i’r gaeaf dynnu i’w derfyn."

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Llywodraeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon