Newyddion

Lansio fflecsi yn Rhuthun

Lansio fflecsi yn Rhuthun

23 Mawrth 2022

Bydd Cyngor Sir Ddinbych a Thrafnidiaeth Cymru yn cyflwyno cynllun cludiant cyhoeddus arloesol sy’n ymateb i’r galw yn ac o amgylch ardal Rhuthun.

fflecsi yw enw’r cynllun, ac mae’n un o ddim ond 12 enghraifft yng Nghymru. Mae’n ymuno â chynlluniau peilot yn Ninbych a Phrestatyn yn Sir Ddinbych.

Fel rhan o ddatganiad Argyfwng Hinsawdd y Cyngor, bydd hefyd yn cael ei weithredu gan fws mini 16 sedd di allyriadau a weithredir yn llwyr gan fatri, yr un cyntaf erioed yn y wlad.   Rhaid diolch am y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

Bydd y cynllun cludiant hefyd yn darparu adborth defnyddiol ar addasrwydd cerbydau o’r fath mewn sefyllfaoedd a lleoliadau tebyg ledled Cymru.

Bydd teithwyr yn gallu archebu eu cludiant seiliedig ar alw awr o flaen llaw trwy un ai lawrlwytho a defnyddio gwefan fflecsi.cymru neu trwy ffonio canolfan alwadau ddynodedig. Yna gall yr ap hysbysu’r cwsmer ynghylch unrhyw newidiadau yn yr amseroedd casglu.

Bydd fflecsi Rhuthun ar gael o fewn tref Rhuthun ei hun. Gall y cerbyd deithio o amgylch y rhan fwyaf o ffyrdd pengaead trefol Rhuthun. Bydd hyn yn cyflwyno gwasanaeth bws i nifer o bobl yn Rhuthun am y tro cyntaf.

Bydd fflecsi hefyd yn gwasanaethu nifer o bentrefi a phentrefannau, yn bennaf Bontuchel, Clawddnewydd, Clocaenog, Derwen, Graigfechan, Llanelidan, Pentrecelyn a Rhydymeudwy.

Pan gyflwynwyd fflecsi yn flaenorol mewn Ardaloedd gwledig, hyd yma gwelwyd cynnydd yn y galw gan deithwyr o gymharu â gwasanaethau bws a amserlennwyd.

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd a chyfrifoldeb am Gludiant: “Mae fflecsi yn gynllun newydd i wneud gwasanaethau bws yn fwy hygyrch a defnyddiol i bobl wneud siwrneiau bob dydd. Mae’n rhoi mwy o reolaeth i deithwyr o ran sut maent yn teithio trwy ddarparu mynediad i deithio dibynadwy a hyblyg, a helpu i greu Cymru fwy gwyrdd.”

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae’r gwasanaeth arloesol hwn yn rhan bwysig o weledigaeth Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i leihau’r defnydd o geir a hyrwyddo ffyrdd mwy gwyrdd o deithio, a chefnogi’r economi leol a sicrhau mynediad at gludiant cyhoeddus. Rydym yn falch o lwyddiant y cynlluniau peilot fflecsi ledled Cymru ac wrth ein boddau o allu ehangu’r gwasanaeth gyda cherbyd trydan newydd.”

Dywedodd y Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol dros Wastraff, Cludiant a’r Amgylchedd: “Bellach mae hyblygrwydd o ran ble gall teithwyr deithio. Nid oes angen i leoliadau yn Rhuthun fod yng nghanol y dref yn unig, a gallant bellach gynnwys y ganolfan hamdden, un o’r tair archfarchnad, meddygfeydd, yr ysbyty neu unrhyw le y gall y bws deithio iddo’n ddiogel. Mae hyn hefyd yn cynnwys cyfleoedd i bentrefwyr gyrraedd Coleg Llysfasi heb newid bysys, er enghraifft.

“Mae fflecsi yn cynnig ateb sy’n gallu ymateb i anghenion teithwyr yn llawer mwy penodol. Mae’r amrywiaeth o fannau casglu a gollwng yn llawer gwell. Mae gwasanaethau bws yn Rhuthun a’r pentrefi i’r de a gorllewin y dref wedi bod yn eithaf cyfyngedig yn draddodiadol. Gobeithiwn trwy fod yn hyblyg y gallwn gynnig mwy o gyfleoedd i deithwyr presennol ac y gallwn hefyd ddenu defnyddwyr newydd.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon