Newyddion

Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn, Llywodraeth Cymru yn amlinellu cynlluniau i newid y ffordd rydyn ni'n teithio

Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn, Llywodraeth Cymru yn amlinellu cynlluniau i newid y ffordd rydyn ni'n teithio

31 Mawrth 2022

“Ers dros 70 mlynedd rydyn ni wedi ei gwneud yn haws teithio mewn car ac yn anoddach teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae'n rhaid i hynny newid.”

Dyna oedd geiriau'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters wrth iddo gyhoeddi cynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth i newid y ffordd mae gwasanaethau bysiau'n cael eu darparu ledled Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog mai cynllunio system sy'n 'hawdd ei defnyddio, hawdd cael mynediad ati ac wedi'i chysylltu'n dda' fyddai ei brif flaenoriaeth, i ddarparu trafnidiaeth gynaliadwy sy'n 'ddewis cynaliadwy ymarferol’ i bobl yn lle defnyddio ceir preifat.

Mae'r Papur Gwyn ar Fysiau, a gafodd ei gyhoeddi heddiw, yn gam allweddol tuag at fodel newydd ar gyfer gweithredu bysiau yng Nghymru, ac yn gyfle inni edrych ar yr hyn mae angen i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus Cymru ei ddarparu.

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol, y diwydiant bysiau a theithwyr ar fodel masnachfreinio arfaethedig sydd â'r nod, yn y pen draw, o ddarparu Un Rhwydwaith, Un Amserlen ac Un Tocyn.

Fel rhan o'r gwaith hwn, mae ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos yn agor heddiw, i ganiatáu i bobl ledled Cymru ddweud eu dweud ar sut bydd y system newydd yn cael ei chynllunio.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am drafnidiaeth:

Ers gormod o flynyddoedd rydyn ni wedi creu diwylliant lle rydyn ni'n dibynnu ar geir sydd wedi caniatáu rhyddid a hyblygrwydd unigol yr ydyn ni i gyd yn eu gwerthfawrogi, ond mae hefyd wedi arwain at anghydraddoldebau ac iddyn nhw wreiddiau dwfn a niwed i'r amgylchedd.

Wrth inni geisio adfer o'r pandemig a chymryd camau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, bydd bysiau’n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gysylltu ein cymunedau a chynnig dewis arall cynaliadwy i bobl yn lle defnyddio ceir preifat.

Rydyn ni wedi gweld dirywiad graddol yn y diwydiant bysiau yng Nghymru dros y blynyddoedd ac, o ganlyniad, rydyn ni wedi etifeddu diwydiant sydd wedi torri y mae angen buddsoddi ynddo yn fawr iawn.

Ond, rwy'n hyderus y bydd y cynlluniau rydyn ni wedi'u cyhoeddi heddiw yn helpu i baratoi'r ffordd at adferiad iach.

Ein bwriad yw rhoi pobl o flaen elw a darparu rhwydwaith bysiau ar gyfer teithwyr sydd wedi'i gynllunio'n dda, yn hawdd ei ddeall ac wedi’i gysylltu sy'n sicrhau bod gwneud y peth iawn yn hawdd.

Cyn y diwygio deddfwriaethol hwn, mae 'Bws Cymru' yn amlinellu map ffordd manwl ar gyfer sut rydyn ni am wella pob agwedd ar ddarparu gwasanaethau bysiau i deithwyr. Mae hyn yn cynnwys seilwaith, dyrannu ffyrdd, hygyrchedd, integreiddio â dulliau trafnidiaeth gyhoeddus eraill ac, yn ehangach, sut y gallwn ni sicrhau newid cadarnhaol drwy weithio gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol a'r diwydiant bysiau.

Fel rhan o ymrwymiad parhaus i gludiant i'r ysgol, heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganfyddiadau'r Adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr a gynhaliwyd y llynedd.

Nodwyd nifer o feysydd yr oedd angen eu hystyried ymhellach. Mae'r camau nesaf sydd i'w cymryd yn cael eu hamlinellu yn yr adroddiad, a bydd ymgynghoriad i ddilyn yn ddiweddarach eleni.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon