Newyddion

Trafnidiaeth Cymru yn llofnodi cytundeb i gymryd yr awenau gan Traveline Cymru

Trafnidiaeth Cymru yn llofnodi cytundeb i gymryd yr awenau gan Traveline Cymru

01 Ebrill 2022

Mae partner cyflawni trafnidiaeth di-elw Llywodraeth Cymru gam yn nes heddiw, 1 Ebrill 2022, wrth iddo fwrw ymlaen a’i weledigaeth o ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid siop-un-stop i bobl Cymru. 

Gan adeiladu ar lwyddiant gwasanaeth poblogaidd Traveline Cymru, mae’r cwmni sy’n berchen arno, PTI Cymru, wedi cael ei drosglwyddo i Trafnidiaeth Cymru (TrC) mewn cytundeb y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno arno i greu canolfan wybodaeth integredig ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Mae TrC a PTI Cymru wedi croesawu’r symudiad hwn, gan ei fod yn gyfle cyffrous i gyfuno’r holl adnoddau a thalentau profiad cwsmeriaid sydd eisoes yn bodoli rhyngddynt i greu rhywbeth arbennig iawn a fydd yn mynd â’r profiad i gwsmeriaid i’r lefel nesaf.

Dywedodd Prif Weithredwr TrC, James Price: “Rydyn ni’n croesawu’r datblygiad hwn yn fawr ac mae’n ein galluogi i fwrw ymlaen â’n cynlluniau uchelgeisiol i weithio’n well gyda’n gilydd, fel un tîm. Ers misoedd bellach, rydyn ni wedi bod yn trafod cyfleoedd gwych gwneud PTI Cymru yn rhan o deulu TrC, nid yn unig i’w filoedd o gwsmeriaid ffyddlon a’i weithlu ymroddedig, sy’n golygu bod PTI Cymru mor llwyddiannus heddiw, ond hefyd o ran tyfu’r hyn gall TrC ei gynnig i gwsmeriaid. Mae’n ein rhoi mewn sefyllfa gref iawn i gyflawni ein hamcan corfforaethol o wella profiad yn barhaus – gan roi’r cwsmer wrth galon yr hyn a wnawn.  

“Dros y tair blynedd diwethaf, rydyn ni wedi datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’n cwsmeriaid, wedi buddsoddi yn ein rhwydwaith ac wedi dechrau creu diwylliant lle mae’r cwsmer wrth galon ein penderfyniadau. Byddwn yn parhau â’r gwaith hwn dros y pum mlynedd nesaf ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein hymgysylltiad â chwsmeriaid, sicrhau bod ein rhwydwaith yn fwy hygyrch i bawb, gwella’r wybodaeth sydd ar gael i’n cwsmeriaid a dod ag atebion arloesol i wella eu profiadau.” Bydd tîm PTI Cymru a fydd yn ymuno â ni yn chwarae rhan hollbwysig yn ein helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd.”

 

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr PTI Cymru, Jo Foxall: "Mae'r tîm yn PTI Cymru yn falch iawn o fod yn ymuno â theulu Trafnidiaeth Cymru. Mae'n gyfle gwych i'r ddau sefydliad gydweithio i ddarparu gwybodaeth o safon a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'r cyhoedd sy'n teithio yng Nghymru. Gwyddom fod gwybodaeth yn rhan allweddol o newid ymddygiad ac yn annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac rydym yn gyffrous i ddod â'n hoffer a'n harbenigedd i Drafnidiaeth Cymru i'n galluogi i weithio gyda'n gilydd i annog pobl i deithio'n fwy cynaliadwy.

 

"Sefydlwyd Traveline Cymru 22 mlynedd yn ôl i ddarparu rhif ffôn i gwsmeriaid gael gafael ar wybodaeth am fysiau mewn un lle. Rydym wedi esblygu yn y cyfnod hwnnw i ddarparu cynllunio teithiau aml-foddol ar draws ystod o offer a llwyfannau ac yn gweithio'n galed i greu set ddata bysiau a ddefnyddir gan lawer ar draws y diwydiant. Dod yn rhan o TrC yw'r cam nesaf yn ein esblygiad i sicrhau bod cwsmeriaid yn parhau i fod wrth wraidd yr hyn a wnawn wrth i'w gweledigaeth gyd-fynd mor glir â'n gweledigaeth ni. Un o uchafbwyntiau diweddar ein taith gwasanaeth cwsmeriaid yw derbyn 98.4% o foddhad cwsmeriaid ar gyfer darpariaeth canolfan gyswllt Traveline Cymru. Rydym yn ymroddedig i barhau â hyn yn ein cartref newydd drwy barhau i berthynas â'n rhanddeiliaid a chysylltiadau ag anghenion cwsmeriaid."

 

 

Ni fydd cwsmeriaid yn gweld unrhyw newid gan y bydd gwasanaeth Traveline yn parhau i weithredu fel arfer am y tro, wrth i TrC fwrw ymlaen i integreiddio’r busnes yn llawn. Bydd parhau i ddarparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel y brif flaenoriaeth, gan gynnwys y gwasanaeth penodol gan y tîm gwybodaeth i gwsmeriaid ym Mhenrhyndeudraeth, Gogledd Cymru.

 

Bydd Jo Foxall a Richard Workman yn parhau fel aelodau’r Bwrdd ac yn ymuno â nhw mae cyfarwyddwyr TrC David O’Leary a Lewis Brencher. Mae TrC wedi talu teyrnged i aelodau’r bwrdd, Paul Dyer, Colin Lea, Joshua Miles, Scott Pearson, Timothy Peppin, Robert Saxby, Andrew Whitcombe, Philip Evans, Victoria Winckler a Nigel Winter am eu holl waith caled, eu hymrwymiad a’u hymroddiad i fusnes PTI Cymru.

 

Mae TrC hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd 'Panel Cynghori Integredig ar Drafnidiaeth' newydd yn cael ei greu i gynghori a chefnogi ei waith i integreiddio gwybodaeth, tocynnau a seilwaith ar draws trafnidiaeth yng Nghymru. Gwahoddwyd aelodau presennol bwrdd PTI Cymru i ymuno a chyfrannu eu harbenigedd a'u dealltwriaeth o'r gwaith hwn.

 

Gallwch ymweld â Traveline drwy fynd i www.traveline.cymru

 

 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon