
Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Cynllun Teithio am Ddim ar Fysiau i Ffoaduriaid - ‘Tocyn Croeso’
12 Ebrill 2022Mae’r cynllun ar gael i bob ffoadur sy’n teithio i Gymru i chwilio am loches, yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer creu Cenedl Noddfa, cyhyd â’u bod yn dangos prawf dilys eu bod yn gymwys fel y rhestrir yn nhelerau ac amodau’r cynllun.
I ddeall mwy am sut mae cymryd rhan yn y cynllun, y gofynion o ran cymhwystra a’r gweithredwyr bysiau sy’n cymryd rhan ynddo, gallwch weld y Telerau a’r Amodau a rhestr o Gwestiynau Cyffredin isod.