Newyddion

Adroddiad newydd gan Stagecoach yn egluro’r llwybr ar gyfer denu dros filiwn o deithwyr newydd i rwydweithiau bysiau’r DU drwy newid i fysiau di-allyriadau

Adroddiad newydd gan Stagecoach yn egluro’r llwybr ar gyfer denu dros filiwn o deithwyr newydd i rwydweithiau bysiau’r DU drwy newid i fysiau di-allyriadau

13 Ebrill 2022

Adroddiad newydd gan Stagecoach yn egluro’r llwybr ar gyfer denu dros filiwn o deithwyr newydd i rwydweithiau bysiau’r DU drwy newid i fysiau di-allyriadau

 

  • Mae adroddiad newydd yn egluro’r llwybr ar gyfer denu dros filiwn o deithwyr newydd i rwydweithiau bysiau’r DU drwy newid i fysiau di-allyriadau
  • Mae ymchwil yn dangos yn glir na all teithwyr ysgwyddo holl gostau’r broses bontio; y perygl wrth godi prisiau tocynnau i ariannu costau uwch bysiau gwyrdd yw bod nifer y bobl sy’n defnyddio bysiau yn gostwng yn sylweddol
  • Mae canlyniadau’n dangos bod 73% o bobl yng Nghymru am weld eu cwmni bysiau lleol yn dechrau defnyddio bysiau di-allyriadau, ac y byddai 22% ohonynt yn defnyddio bysiau’n amlach pe bai bysiau di-allyriadau yn cael eu defnyddio yn lle bysiau diesel lleol
  • Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr heriau gweithredol a masnachol sylweddol y mae pob gweithredwr bysiau’n eu hwynebu wrth geisio cyflwyno fflyd sy’n cynnwys bysiau di-allyriadau yn unig
  • Mae’n egluro cynllun manwl ar gyfer cyflwyno bysiau mwy gwyrdd, ac yn rhestru cyfres o argymhellion ar gyfer y diwydiant, llywodraeth ac awdurdodau lleol er mwyn ymateb i’r heriau ymarferol a bodloni disgwyliadau teithwyr, sy’n cynnwys sicrhau model ariannu hirdymor cynaliadwy

 

Gallai dros filiwn o deithwyr newydd gael eu denu i ddefnyddio rhwydweithiau bysiau’r DU drwy newid i fysiau di-allyriadau, yn ôl adroddiad pwysig newydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (29 Mawrth 2022) gan Stagecoach, gweithredwr bysiau mwyaf Prydain. Mae’r adroddiad Road map to zero: the transition to Zero Emission Buses, what it means for people, and the journey to get there yn egluro gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer sicrhau bod pob bws ledled y DU yn fws di-allyriadau.

 

Mae’r ymchwil a’r argymhellion annibynnol yn adeiladu ar darged Stagecoach, sef sicrhau bod pob un o fysiau fflyd y DU yn fysiau di-allyriadau erbyn 2035, a’u diben yw cynorthwyo pob gweithredwr bysiau i wireddu’r uchelgais hwnnw a chefnogi targedau sero net y DU.

 

Mae’r adroddiad yn ystyried yr her drwy ganolbwyntio ar y bobl sy’n ymwneud fwyaf â’r rhwydwaith bysiau – sef y cyhoedd a’r gweithlu – ac mae’n nodi maint y cyfle y mae bysiau trydan yn ei gynnig, gan ddangos sut y gallant ddenu cenhedlaeth newydd o ddefnyddwyr bysiau. Dywed dros filiwn o bobl ledled y DU, nad ydynt yn defnyddio bysiau ar hyn o bryd, y byddent yn dechrau defnyddio gwasanaethau pe bai bysiau trydan yn cael eu cyflwyno yn eu hardal leol, ar yr amod bod prisiau’r tocynnau ac amlder y gwasanaethau’n aros yr un fath. At hynny, byddai dros naw miliwn o bobl sy’n teithio ar fysiau ar hyn o bryd yn disgwyl defnyddio bysiau’n amlach.

 

Mae’r ymchwil yn dangos y byddai 22% o’r bobl a gafodd eu cyfweld yng Nghymru yn defnyddio bysiau’n amlach pe bai bysiau di-allyriadau yn cael eu defnyddio yn lle bysiau diesel lleol, a bod 73% o bobl yng Nghymru am weld eu cwmni bysiau lleol yn dechrau defnyddio bysiau di-allyriadau yn unig.

 

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr heriau gweithredol a masnachol sylweddol y mae angen i bob gweithredwr bysiau yn y DU eu goresgyn er mwyn cyflawni hynny. Mae’r heriau dan sylw’n cynnwys:

 

  • Uwchraddio seilwaith ar draws y DU, trydaneiddio pob cerbyd a depo, a chydnabod y bydd ar fysiau di-allyriadau angen mwy o le a mwy o amser i wefru.
  • Uwchraddio sgiliau’r gweithlu a denu cenhedlaeth newydd o bobl i swyddi gwyrdd sy’n gofyn am lefel uchel o fedrusrwydd yn y diwydiant bysiau.
  • Datblygu dull ariannu cynaliadwy hirdymor sy’n adlewyrchu costau uwch bws di-allyriadau o’i gymharu â bws diesel.

 

Un pwynt allweddol y mae’r ymchwil yn ei nodi’n glir yw ei bod yn bwysig dod o hyd i’r dull cywir o oresgyn yr heriau hyn.

 

Gallai proses bontio anghywir arwain at ganlyniadau arwyddocaol i deithwyr ac i gynaliadwyedd y rhwydwaith bysiau. Mae polau piniwn annibynnol a gynhaliwyd yn rhan o’r adroddiad yn dangos bod dros 12 miliwn o deithwyr yn y DU yn dweud y byddent yn defnyddio bysiau’n llai aml pe bai prisiau tocynnau’n codi 10% yn unig er mwyn ariannu’r broses o bontio i fysiau di-allyriadau, a bod 57% o’r bobl a gafodd eu cyfweld yng Nghymru yn cytuno â’r safbwynt hwnnw. Pe bai cyflwyno bysiau mwy gwyrdd yn methu â gwella prydlondeb neu amlder bysiau neu brofiad y teithiwr, byddai dros 14.5 miliwn o bobl yn teimlo’n siomedig.

 

Mae’r ymchwil yn nodi bod cryn dipyn o gefnogaeth ymhlith aelodau’r cyhoedd i’r broses o bontio i fysiau di-allyriadau. Roedd canfyddiadau’r ymchwil fel a ganlyn:

 

  • Mae’r cyhoedd am weld bysiau mwy gwyrdd yn cael eu cyflwyno – mae 66% o aelodau’r cyhoedd yn meddwl bod newid i fysiau di-allyriadau yn beth da.
  • Mae pontio i fysiau di-allyriadau yn debygol o alluogi’r gweithredwr bysiau lleol i wneud argraff fwy cadarnhaol ar y cyhoedd – ar ôl i fysiau di-allyriadau gael eu cyflwyno mae lefelau bodlonrwydd â’r gweithredwr bysiau lleol, ymhlith pobl nad ydynt yn defnyddio bysiau, yn debygol o gynyddu 268%
  • Mae’r cyhoedd yn sylweddoli maint yr her – mae 53% o aelodau’r cyhoedd o’r farn y bydd yn anodd neu’n anodd iawn i weithredwyr bysiau newid i ddefnyddio bysiau di-allyriadau yn unig.

 

Er mwyn bodloni disgwyliadau teithwyr, mae Stagecoach heddiw wedi cynnig tair egwyddor greiddiol a 21 o argymhellion penodol a fydd yn galluogi’r diwydiant i bontio i ddefnyddio bysiau trydan yn unig gan gynyddu nifer y teithwyr ar draws y rhwydwaith ar yr un pryd.

 

Cafodd yr egwyddorion eu datblygu yn dilyn trafodaeth ford gron â rhanddeiliaid yn y diwydiant a llunwyr polisi, ac maent yn adlewyrchu blaenoriaethau teithwyr. Dyma’r egwyddorion a nodwyd yn yr adroddiad:

 

  • Cyllid: Ni all teithwyr ysgwyddo holl gostau’r broses bontio, oherwydd bydd nifer y bobl sy’n defnyddio bysiau yn gostwng ymhellach.
  • Profiad y cwsmer: Mae angen i deithwyr deimlo y bydd ansawdd a dibynadwyedd y gwasanaeth a gânt wrth deithio ar fysiau yn gwella ar ôl cyflwyno bysiau gwyrdd, yn hytrach na’u bod dan fygythiad.
  • Partneriaeth: Mae angen i bob rhanddeiliad sydd â diddordeb mewn gwireddu’r weledigaeth hon gydweithio â’i gilydd i oresgyn y rhwystrau sy’n atal y broses bontio rhag digwydd.

 

Mae argymhellion penodol yr adroddiad yn ymdrin â chyllid, seilwaith a newidiadau gweithredol, yn ogystal â heriau o ran y gweithlu, ac maent yn cynnwys yr argymhellion canlynol:

 

  • Dylai gweithredwyr bysiau, awdurdodau lleol a llywodraethau cenedlaethol gydweithio â’i gilydd i archwilio modelau ariannu hirdymor newydd neu arloesol, gan gynnwys atebion sy’n ymwneud â chynhyrchu refeniw yn lleol.
  • Dylai gweithredwyr bysiau weithio gydag awdurdodau lleol i hybu’r gwaith o gyflwyno bysiau di-allyriadau newydd, er mwyn sicrhau i’r graddau eithaf posibl bod y broses o’u cyflwyno efallai’n ysgogi pobl i newid eu dulliau teithio.
  • Dylai’r sector bysiau, fel corff, hyrwyddo prentisiaethau gwyrdd newydd i beirianwyr ymhlith pobl ifanc ledled y DU, er mwyn sicrhau gweithlu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
  • Dylai Partneriaethau Datgarboneiddio Trafnidiaeth Leol gael eu sefydlu rhwng gwahanol weithredwyr bysiau, Gweithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu ac awdurdodau lleol er mwyn nodi’r bylchau rhwng capasiti’r grid ar hyn o bryd a’r capasiti sy’n ofynnol er mwyn gallu defnyddio bysiau di-allyriadau’n unig ym mhob cymuned.
  • Dylai’r llywodraeth ac Ofgem asesu’r angen am ddyletswydd statudol newydd ar Weithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu i roi blaenoriaeth i waith uwchraddio seilwaith y grid sy’n cael effaith gymdeithasol a chymunedol sylweddol, er enghraifft seilwaith gwefru bysiau.

 

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos y budd sy’n bosibl o gael pobl i gefnu ar eu ceir a dechrau defnyddio dulliau teithio sy’n allyrru llai o garbon, os gallwn gael y broses o bontio i fysiau di-allyriadau yn gywir. Drwy drawsnewid ôl troed amgylcheddol ein fflyd o fysiau, gallwn nid yn unig leihau allyriadau ond hefyd creu cenhedlaeth newydd o deithwyr ar fysiau, yma yng Nghymru ac yn ehangach ledled y DU.

 

“Dyma newyddion cyffrous i weithredwyr bysiau, i’r diwydiant ehangach, i’r llywodraeth, i awdurdodau lleol ac, yn bwysicaf oll, i deithwyr. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod y cyfan yn dibynnu ar allu pob un ohonom i gael y broses bontio’n gywir a sicrhau bod blaenoriaethau teithwyr yn dod yn gyntaf.

 

“Mae ein hymchwil yn nodi’n glir bod angen i’r newid trawsnewidiol hwn gael ei gyflwyno’n ofalus. Y map ffordd hwn yw ein cyfraniad ni i’r drafodaeth ehangach, ac mae’n egluro cynllun a fydd yn cynorthwyo’r sector cyfan i sicrhau bod y broses yn llwyddiant. Er mwyn llwyddo, mae’n amlwg bod yn rhaid i ni fabwysiadu dull o gydweithio sy’n bodloni disgwyliadau teithwyr ac sy’n canolbwyntio ar wella profiad y teithiwr. Mae cymaint i’w ennill o gael y broses yn gywir, ond o’i chael yn anghywir mae perygl y byddwn yn llesteirio’r broses o bontio i sefyllfa sero net.”

 

Mae’r argymhellion sydd yn yr adroddiad wedi’u cefnogi gan leisiau blaenllaw ar draws y sector, gan gynnwys Partneriaeth Zemo, Yr Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well a Transport Focus.

 

Meddai’r Gwir Anrhydeddus Norman Baker, Cynghorydd Ymgyrchoedd a Pholisi gyda’r Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well:

"Mae’n wych gweld y brwdfrydedd sydd yn y diwydiant bysiau dros symud yn benderfynol tuag at gael fflyd o fysiau di-allyriadau. Mae hynny’n atgyfnerthu’r pwynt bod y bws yn allweddol i unrhyw strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae hefyd, yn gywir ddigon, yn sicrhau bod y bws yn rhan o’r ateb ac yn gerbyd a fydd â rôl bendant i’w chwarae yn y dyfodol. Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn gan Stagecoach."

 

Meddai Anthony Smith, Prif Weithredwr Transport Focus, y corff gwarchod annibynnol: “Rydym yn falch o weld yr ymchwil a’r adroddiad hwn gan Stagecoach. Bydd cerbydau di-allyriadau yn dod yn fwyfwy allweddol o safbwynt helpu trafnidiaeth gyhoeddus i chwarae ei rhan yn yr ymdrech i gyrraedd targedau’r Llywodraeth ar gyfer datgarboneiddio. Mae mwy o fuddsoddi mewn bysiau yn rhywbeth i’w groesawu yn fawr. Bydd cerbydau newydd yn ogystal â ffocws ar brif flaenoriaethau teithwyr, sef dibynadwyedd a gwerth am arian, yn temtio mwy o bobl i roi cynnig ar ddefnyddio bysiau.”

 

Meddai Andy Eastlake, Prif Weithredwr Partneriaeth Zemo – y sefydliad sy’n gweithio’n agos gyda’r Llywodraeth a rhanddeiliaid allweddol i gyflymu’r broses o bontio i sefyllfa sero net ym maes trafnidiaeth ar y ffyrdd:

Mae’r adroddiad hwn yn dangos y fantais i bawb a allai fod yn bosibl drwy bontio i fysiau di-allyriadau, os gwnawn ni gydweithio i wneud pethau’n gywir. Mae teithio ar y bws eisoes yn gallu bod yn un o’r dulliau mwyaf cynaliadwy o deithio, sy’n allyrru’r lefel isaf o garbon, a bydd pontio’n gyflym i fysiau di-allyriadau – sy’n broses yr ydym yn gweithio’n galed gyda Stagecoach ac eraill i'w chyflawni – yn gwella hynny ymhellach.

 

“Mae symud i ddefnyddio bysiau di-allyriadau yn gyfle gwych i drawsnewid delwedd y bws a denu set hollol newydd o ddefnyddwyr sydd am gyfrannu i uchelgeisiau’r DU ar gyfer cyrraedd sefyllfa sero net. Gall y bws esmwyth, tawel, effeithlon a di-allyriadau sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy fod yn ddarpariaeth ddeniadol dros ben, a dylai fod yn arwain siwrnai’r DU wrth iddi gefnu ar danwydd ffosil.”

 

Meddai’r Farwnes Vere, y Gweinidog Ffyrdd: “Mae’n braf gweld gweledigaeth mor uchelgeisiol gan Stagecoach ynghylch cael fflyd o fysiau di-allyriadau yn y DU. Mae’n amlwg y bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i’n siwrnai tuag at drafnidiaeth fwy gwyrdd, ac mae bysiau di-allyriadau yn elfen allweddol o uchelgeisiau Llywodraeth y DU, fel y dangosir gan ein hymrwymiad i gefnogi 4,000 o fysiau di-allyriadau.” 

 

Lansiodd Stagecoach ei strategaeth hirdymor newydd ar gyfer cynaliadwyedd y llynedd, sef Driving Net Zero: Better Places to Live and Work – sy’n egluro cynlluniau i ddatgarboneiddio ei fusnes oddeutu 70% erbyn 2035 ac sy’n anelu at gael fflyd o fysiau di-allyriadau ar draws y DU erbyn y dyddiad hwnnw. Bydd y map ffordd tuag at ddod yn fusnes hollol niwtral o ran carbon yn golygu buddsoddi mewn bysiau di-allyriadau newydd, megis bysiau trydan, a thechnolegau gwyrdd eraill yn ystod y 15 mlynedd nesaf. Mae’n dilyn gostyngiad o 14% mewn allyriadau carbon rhwng 2014 a 2019.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon