Newyddion

Ymgyrch Ramblers Cymru yn ystod y gwanwyn i roi hwb i fyd natur

Ymgyrch Ramblers Cymru yn ystod y gwanwyn i roi hwb i fyd natur

26 Ebrill 2022

Mae prosiect Llwybrau i Lesiant Ramblers Cymru, a gaiff ei arwain gan gymunedau, yn ceisio helpu byd natur ar draws 18 o ardaloedd yng Nghymru drwy gynorthwyo cymunedau i wella eu mannau gwyrdd lleol a datblygu eu rhwydweithiau o lwybrau.

Drwy gydol mis Ebrill a mis Mai, bydd gwirfoddolwyr ledled Cymru yn ymuno â swyddogion rhanbarthol Ramblers Cymru, Ymddiriedolaethau Natur Cymru, Coed Cadw ac awdurdodau lleol i gynnal amryw weithgareddau megis diwrnodau gweithgareddau bywyd gwyllt, sesiynau hau hadau, sesiynau clirio llystyfiant, a llawer mwy.

Meddai Hannah Wilcox-Brooke, rheolwr y prosiect Llwybrau i Lesiant: “Drwy gydol y cyfnod clo, buodd pobl o bob oed yn crwydro o amgylch eu mannau gwyrdd lleol gan sylweddoli mor fanteisiol yw cerdded yn yr awyr agored i’w lles meddyliol a chorfforol. Yn anffodus, fodd bynnag, daethant ar draws problemau gyda’r rhwydwaith o lwybrau.

“Rydym am wella’r llwybrau, oherwydd rydym yn gwybod bod llwybrau o safon yn gallu ein cysylltu â’n ffrindiau a’n teulu, byd natur a’n treftadaeth leol.

“Rydym yn trefnu’r gweithgareddau ymarferol hyn gyda gwirfoddolwyr o bob oed a chefndir er mwyn gwella ein mannau gwyrdd a sicrhau bod ardaloedd awyr agored yn fwy hygyrch. Rydym yn gobeithio y bydd y gwirfoddolwyr yn mynd adref ar ddiwedd y dydd gan wybod eu bod wedi gwneud rhywbeth cadarnhaol i wella eu cymuned a’r amgylchedd lleol drwy eu gwaith ar y prosiect hwn.”

Meddai Sean McHugh o rwydwaith Partneriaethau Natur Lleol Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â Ramblers Cymru i gael gwirfoddolwyr lleol i ymwneud â byd natur yn eu cymunedau. Mae gweithgareddau’n seiliedig ar fyd natur yn ffordd wych o weld a gwerthfawrogi ein hamgylchedd ac o gael pawb i gydweithio â’i gilydd yn yr awyr agored er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.”

Drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â chynnal diwrnodau gwirfoddoli’n seiliedig ar fyd natur, mae Ramblers Cymru hefyd yn rhoi offer a hyfforddiant i gymunedau er mwyn iddynt allu gwella mynediad i’w rhwydweithiau o lwybrau. Mae gatiau y gall pobl ag anawsterau symud fynd drwyddynt yn cael eu gosod, mae llwybrau cerdded newydd sy’n addas i deuluoedd yn cael eu creu, ac mae llwybrau cerdded sydd ar agor eisoes yn cael eu huwchraddio.

I gael gwybod mwy am y 18 o gymunedau y mae’r prosiect Llwybrau i Lesiant yn ymdrin â nhw, a chael gwybod sut y gallwch fynd ati i wella byd natur a mynediad yn eich cymuned chi, ewch i www.ramblers.org.uk/pathstowellbeing.

Mae’r prosiect wedi cael cyllid gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon