Newyddion

Canfu bod tlodi trafnidiaeth yn effeithio pobl Cymru'n anghyfartal.

Pobl yng Nghymru'n wynebu gwirioneddau tlodi trafnidiaeth, medd adroddiad Sustrans

17 Mai 2022

Mae adroddiad newydd wedi’ gyhoeddi gan Sustrans Cymru wedi darganfod bod pobl ar draws pob man o Gymru’n ddioddef o effeithiau tlodi trafnidiaeth. Dyna pam mae Sustrans yn credu, yng nghyd-destun argyfwng costau byw, mae angen gweithrediad ar frys i helpu'r rheini sydd efo’r angen mwyaf ar gymorth ac sydd wedi’ arwahanu o opsiynau trafnidiaeth

Mae Gwneud y Cysylltiad yn amlinellu’r gwirioneddau hallt o’r opsiynau trafnidiaeth anfforddiadwy ac annibynadwy sy’n wynebu llawer o bobl yng Nghymru.

O ganlyniad, mae llawer o bobl methu cael mynediad at y drafnidiaeth maent eu hangen i fyw bywydau hapus ac iachus.

 

Cyffredin ar draws Cymru

Mae gan y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru rhwng 40-50% o gartrefi yn gwario mwy na 10% o’u henillion ar gostau cynnal car (hyd yn oed os oes ganddynt un a’u peidio).

Yr ardaloedd gwledig yng Nghymru sydd yn bennaf y lleiaf galluog i gael mynediad at wasanaethau angenrheidiol ar gyfer bywyd beunyddiol.

Gwyddom fod diffyg mynediad at wasanaethau’n gwaethygu mathau eraill o amddifadedd ymhlith ein cymunedau.

Gall opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy, ddibynadwy, a fforddiadwy sy’n hygyrch i bawb helpu cymunedau ar draws Cymru i ffynnu.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Christine Boston: 

“Mewnwelediad amserol a phwysig iawn i’r effeithiau sylweddol o gostau cynyddol mynediad at drafnidiaeth yng Nghymru yw Gwneud y Cysylltiad, yn enwedig wedi’ fframio yn erbyn yr argyfwng costau byw rydym i gyd yn profi.

“Gwyddom fod tlodi trafnidiaeth yn cyfrannu at gylch anfad sy’n atal pobl rhag cael mynediad at addysg safonol neu wasanaethau angenrheidiol, sy’n ei wneud yn anoddach byth i ddianc rhag tlodi yn y dyfodol.

“Yma yn Sustrans, rydym am weld Cymru sy’n caniatáu i bawb yn gyfan gwbl y rhyddid a’r gallu i deithio’n fforddiadwy, yn gynaliadwy, ac yn ddiogel.

“Nid oes digon wedi newid ers i Sustrans Cymru cyhoeddi ei adroddiad gwreiddiol deg mlynedd yn ôl – mae angen gweithrediad penderfynol nawr, neu rydym am fentro gwaethygu pethau ar gyfer rheini sy’n cael eu heffeithio’r mwyaf gan dlodi trafnidiaeth.”

 

Gwasanaethau anfforddiadwy ac annibynadwy

Dros y degawd diwethaf mae prisoedd tanwydd wedi codi gan lain a 10% tra bod prisoedd tocynnau trenau, coetsis a bysiau wedi cynyddu o 33% i 55.7%.

Mae prisoedd tocyn bysiau wedi codi gan 3.5% o 2019 i 2020 yn unig, ac mae cynyddiad o 3.8% ym mhrisoedd tocyn trenau wedi’ gyhoeddi ar gyfer 2022.

Mae taliadau uwch yn cael mwy o effaith ar bobl sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â phobl ar enillion llai.

O’r 23% o bobl yng Nghymru sydd heb fynediad at gar, maent yn dibynnu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at wasanaethau sylfaenol a hanfodol.

Ers 2010, mae’r niferoedd o gerbydau bysiau wedi gostwng gan 17.8%, sy’n golygu bod 12% o bobl yng Nghymru nawr heb unrhyw gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn eu hardaloedd lleol.

 

Effeithiau anghyfartal

Mae adroddiad Sustrans yn amlinellu’r ffaith bod tlodi trafnidiaeth yn effeithio rhai grwpiau demograffaidd yn anghyfartal – yn ochrog ag enillion a lleoliad, y grwpiau sydd wedi’u heffeithio’r mwyaf yw:

  • Menywod
  • Grwpiau lleiafrifoedd ethnig
  • Pobl anabl
  • Yr henoed
  • Plant a phobl ifanc

Mae Gwneud y Cysylltiad hefyd yn cadarnhau bod pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru neu mewn ardaloedd efo cyfradd uchel o amddifadedd sy’n cael eu heffeithio’r mwyaf gan dlodi trafnidiaeth.

Ble mae gwasanaethau’n bodoli, does dim sicrhad eu bod nhw’n ateb gofynion y cymunedau maent yn gwasanaethu.

Mae cymunedau gwledig yn cael eu heffeithio’n fwy gan wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus afreolaidd, ble mae trafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan allweddol mewn galluogi mynediad at wasanaethau, gyflogaeth, cyfleoedd hyfforddiant ac adloniant hanfodol.

Nid yw hanner gorsafoedd trên yng Nghymru, yn ôl yr adroddiad, yn hygyrch i bobl anabl, ac nid yw 34% hygyrch o gwbl i ddefnyddwyr cadair olwyn.

 

Effaith cyffyrddadwy ar bawb yng Nghymru

Er i bob cartref yng Nghymru teimlo sgil-effaith yr argyfwng costau byw sy’n datblygu, mae’n sicr bydd cartrefi incwm isel yn cael eu heffeithio’n anghyfartal.

O ganlyniad, bydd angen i lawer o bobl yng Nghymru gwneud penderfyniadau difrifol ynglŷn â sut, pryd a ble maent yn teithio.

Amlinellir adroddiad Sustrans hefyd yr effaith mae tlodi trafnidiaeth yn cael ar gyfleoedd cyflogaeth pobl, yn ogystal â’r cyfleoedd addysg sydd ar gael i blant a phobl ifanc.

 

Yr angen am newid

Mae angen gweithrediad ar frys i fynd i’r afael â’r broblem eang o dlodi trafnidiaeth yng Nghymru.

Yn Sustrans, dymunwn fod gan bawb y rhyddid i gael mynediad at y gwasanaethau sydd angen, yn y cymunedau lle maent yn byw.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun clir i ddelio efo tlodi trafnidiaeth, sy’n blaenoriaethu’r rheini sy’n dioeddef y mwyaf.

Dylai hyn bod yn ochrog ag:

  • Amrywiaethu'r sector trafnidiaeth
  • Blaenoriaethu'r egwyddor cymdogaethau 20-munud ar draws Cymru
  • Cynyddu mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, yn enwedig yng nghymdogaethau dan anfantais economaidd

Gan gydweithio gyda’n gilydd gallwn sicrhau system trafnidiaeth sy’n gweithio er lles pawb, sy’n lleihau yn lle gwaethygu anghyfiawnder.

Credwn gall trafnidiaeth chwarae rhan hanfodol wrth geisio creu Cymru gwirioneddol gysylltiedig efo cymunedau cyfartal.

 

I ddarllen copi llawn o adroddiad Gwneud Y Cysylltiad, cliciwch yma.

I ddysgu mwy am ein gwaith yng Nghymru, cliciwch fan hyn.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon