Newyddion

Gwasanaeth bysus am ddim

Gwasanaeth bysus am ddim

25 Mai 2022

Mae'r cynnig bysus am ddim hynod boblogaidd yn y ddinas yn ôl am benwythnos olaf mis Mai a'r penwythnos gŵyl y banc hir ar ddechrau mis Mehefin.

Mae ar gyfer teithiau sy'n dechrau ac yn gorffen yn ardal Cyngor Abertawe. Dyma'r ardal yn cael ei ffinio gan Gasllwchwr (Ship & Castle), Pontarddulais (yr Orsaf Drenau), Garnswllt, Clydach (Mynwent Coed Gwilym), Lon-lâs (Bowen Arms) a Phort Tennant (Bevans Row) felly mae'n cynnwys lleoedd fel Gorseinon, Pontarddulais, Gŵyr a Threforys.

Nid yw'r cynnig hwn yn cynnwys gwasanaeth agored First Cymru i'r Mwmbwls (rhif 1)

Rhaid i bob taith ddechrau cyn 7.00pm

Mae cynnig bws am ddim yn berthnasol:

 

  • Dydd Sadwrn 28 Mai
  • Dydd Sul 29 Mai
  • Dydd Iau 2 Mehefin (gŵyl banc y gwanwyn)
  • Dydd Gwener 3 Mehefin (gŵyl banc y Jiwbilî Platinwm)
  • Dydd Sadwrn 4 Mehefin
  • Dydd Sul 5 Mehefin

 

Cwestiynau cyffredin

 

Pwy sy'n gallu ei ddefnyddio?
Gallwn ni i gyd ei ddefnyddio. Os ydych yn teithio i weithio yn Abertawe neu i fwynhau diwrnod mas yng nghanol y ddinas ar un o'n traethau bendigedig, mae'r gwasanaeth am ddim. Does dim angen i chi ddangos prawf eich bod yn byw yn Abertawe i deithio am ddim.

 

Pa wasanaethau bysus sydd wedi'u cynnwys yn y cynnig?
Mae gwasanaethau bysus sy'n cael eu gweithredu gan First Cymru, Adventure Travel, South Wales Transport, DANSA a Briggs wedi'u cynnwys.

Yr unig wasanaethau sydd heb eu cynnwys yw:

  • bws agored First Cymru i'r Mwmbwls (rhif 1)
  • gwasanaethau coetsis pellter hir a weithredir gan National Express, Megabus a Flixbus
  • Gwasanaethau 9A a 34 First Cymru yn ôl ac ymlaen i feysydd parcio a theithio.

 

Os byddaf yn dal bws sy'n teithio y tu allan i'r ardal, a fydd rhaid i mi dalu hyd yn oed os ydw i'n dod oddi ar y bws yn Abertawe?
Na fydd. Nodwch Abertawe fel eich cyrchfan, ac eisteddwch i lawr.

 

Os ydw i'n teithio y tu allan i'r ardal, a fydd yn rhaid i mi dalu am y siwrnai gyfan neu am y rhan nad yw yn Abertawe?
Yn anffodus, os ydych yn dal y bws ac yn teithio i rywle sydd y tu allan i ardal Abertawe, bydd yn rhaid i chi dalu am y siwrne gyfan. Yr opsiwn rhataf fel arfer yw prynu tocyn dydd.

 

Hoffwn deithio i Gampws y Bae o Orsaf Fysus Abertawe, er enghraifft. A fydd yn rhaid i mi dalu am y siwrne gyfan neu am y rhan ohoni sydd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn unig?
Yn anffodus bydd yn rhaid i chi dalu am y siwrne gyfan. Mae ein cynnig ar gyfer siwrneiau o fewn ardal Abertawe yn unig. Os ydych yn teithio y tu allan i Abertawe, bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y gyrrwr i ble rydych yn teithio a thalu'r ffi briodol.

 

Ydy hyn yn berthnasol i barcio a theithio?
Yn anffodus nac ydy, ond mae cynigion eraill ar gael os ydych am ddefnyddio'r gwasanaeth parcio a theithio.

 

Pwy sy'n talu am y gwasanaeth am ddim?
Y cyngor sy'n talu am ein bod am annog pobl i ddefnyddio'n gwasanaethau bysus lleol gan fod cyfyngiadau'r pandemig bellach yn cael eu llacio.

 

Beth os oes gennyf docyn tymor?
Ni fydd angen i chi ei ddangos tra bydd y cynnig ar gael. Ond ni chaiff eich tocyn tymor ei estyn ac ni chewch ad-daliad ar ei gyfer.

 

Mae gen i gerdyn bws consesiynol am ddim - sut mae hyn yn effeithio arnaf?
Gall pobl a chanddynt Gardiau Teithio Rhatach Cymru barhau i deithio am ddim a dylid dangos cardiau fel arfer i'r gyrrwr wrth fynd ar y bws.

 

Ai'r cyfan sy'n rhaid i mi ei wneud yw mynd ar y bws? Oes rhaid i mi ddatgan i ble rwy'n mynd neu gasglu tocyn gan y gyrrwr?
Os yw'r bws yn gweithredu o fewn Abertawe, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw camu ar y bws a mwynhau'r daith. Os yw'r bws yn teithio y tu allan i Abertawe, i Gastell-nedd neu Gaerfyrddin er enghraifft, efallai y bydd y gyrrwr yn gofyn i ble rydych chi'n mynd, gan fod y cynnig teithio am ddim ar gyfer lleoliadau yn Abertawe'n unig.

 

A fydd pob cwmni bysus yn gweithredu yn yr un ffordd?
Bydd. Bydd yr un drefn ar waith dim ots pa gwmni bysus rydych yn teithio gyda nhw.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon