Stagecoach yn Ne Cymru yn edrych ymlaen at ddathlu Jiwbilî Blatinwm y Frenhines
01 Mehefin 2022Ar 6 Chwefror eleni, Ei Mawrhydi’r Frenhines oedd Brenin neu Frenhines gyntaf Prydain i ddathlu Jiwbilî Blatinwm, sef 70 mlynedd o wasanaeth i bobl y Deyrnas Unedig, y Teyrnasoedd a’r Gymanwlad.
I ddathlu’r achlysur, mae yna benwythnos gŵyl banc pedwar diwrnod o hyd ar draws y DU, o ddydd Iau 2 Mehefin tan ddydd Sul 5 Mehefin. I anrhydeddu’r dathliad, mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi dadorchuddio bws yn lliwiau’r jiwbilî, a fydd i’w weld mewn gwahanol ardaloedd ar draws y de.
At hynny, mae gweithgareddau wedi’u cynllunio fel a ganlyn:
- Cystadleuaeth gweld y bws. Caiff aelodau’r cyhoedd eu gwahodd i anfon lluniau ar Twitter pan fyddant yn gweld bws y jiwbilî ar hyd y ffyrdd. Y wobr am y llun gorau fydd mis o deithio am ddim, a bydd cyfle hefyd i ennill talebau Love2shop. Dilynwch @stagecoachwales er mwyn cael cyfle i ennill.
- Mae llun lliwio bws y jiwbilî ar gael i blant hefyd i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim ar wefan Stagecoach. Mae croeso i oedolion roi cynnig ar ei liwio hefyd!
- Bydd digwyddiadau i gwsmeriaid yn cael eu cynnal yn Aberdâr, Merthyr Tudful a Phontypridd o 30 Mai ymlaen. At hynny, bydd tîm Stagecoach allan ar y strydoedd yn dosbarthu nwyddau difyr yn ymwneud â’r jiwbilî ac yn hyrwyddo’r tocynnau diweddaraf sy’n cynnwys ‘Flexi5’, sef tocyn bws hyblyg y gellir ei ddefnyddio unrhyw bryd dros gyfnod o 12 mis.
- Bydd depos yn cynnal partïon jiwbilî, gyda chacennau a choffi ac addurniadau’r jiwbilî.
- Ddydd Iau 2 Mehefin a dydd Gwener 3 Mehefin, bydd bysiau ar draws y de’n dilyn amserlen dydd Sul. Mae’r manylion llawn i’w cael yma: https://www.stagecoachbus.com/promos-and-offers/south-wales/jubilee-south-wales