
First Cymru yn lansio teithiau ar fysiau to agored yn ystod yr haf
10 Mehefin 2022Mae First Cymru yn ail-lansio ei wasanaethau bysiau to agored Coaster yn y Mwmbwls a Phorthcawl ac yn cyflwyno DAU wasanaeth newydd ar gyfer haf 2022, yn Aberafan a Dinbych-y-pysgod.
Bydd gwasanaethau’r Mwmbwls, Porthcawl a Dinbych-y-pysgod yn dechrau gweithredu ddydd Iau 2 Mehefin a bydd gwasanaeth Coaster Aberafan yn gweithredu am y tro cyntaf ddydd Llun 6 Mehefin. Mae pob un o’r gwasanaethau Coaster yn rhai y gallwch eu defnyddio fel y mynnwch yn ystod y dydd. Felly, mae un tocyn yn ddigon ar gyfer faint bynnag o deithiau yr hoffech eu gwneud mewn diwrnod!
At hynny, nid yw’r prisiau wedi newid ers y llynedd:
Y Mwmbwls, Porthcawl ac Aberafan
Oedolyn: £5
Dan 15: £3.30
Grŵp o 5: £15
Dinbych-y-pysgod
Oedolyn: £6
Dan 15: £4
Grŵp o 5: £18
Ble a phryd y bydd pob gwasanaeth yn gweithredu?
Gwasanaeth Coaster Dinbych-y-pysgod (TC)
Bydd gwasanaeth Coaster Dinbych-y-pysgod yn gweithredu bob awr yn ystod y dydd o Ddinbych-y-pysgod (South Parade) i Saundersfoot, gan deithio ar hyd Promenâd Dinbych-y-pysgod a thrwy New Hedges.
Mae’r gwasanaeth hwn yn gweithredu ar ddydd Llun, dydd Iau, dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul, ac ar bob gŵyl gyhoeddus.
Gwasanaeth Coaster Aberafan (AC)
Bydd gwasanaeth Coaster Aberafan yn gweithredu bob awr yn ystod y dydd o orsaf fysiau Port Talbot, ar hyd y Promenâd cyfan.
Mae’r gwasanaeth hwn yn gweithredu ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Gwener. Ni fydd yn gweithredu ar unrhyw wyliau cyhoeddus.
Y Mwmbwls – Gwasanaeth 1
Bydd gwasanaeth y Mwmbwls yn gweithredu o orsaf fysiau Abertawe i Fae Bracelet, drwy’r Marina, The Slip, Blackpill (Y Lido) a Sgwâr Ystumllwynarth.
Bydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys ar wyliau cyhoeddus.
Porthcawl – Gwasanaeth 99
Mewn partneriaeth â Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr a Pharc Gwyliau Trecco Bay, bydd gwasanaeth 99 yn gweithredu bob awr yn ystod y dydd o Barc Gwyliau Trecco Bay i Rest Bay.
Bydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu ar ddydd Mercher, dydd Iau, dydd Sadwrn a dydd Sul, ac ar wyliau cyhoeddus.
Meddai Jane Reakes-Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru:
“Mae’n gyfnod cyffrous i bawb yn First wrth i ni lansio’r gwasanaethau hamdden newydd hyn a fydd yn dechrau gweithredu’r penwythnos hwn, sef Gŵyl Banc y Gwanwyn. Bydd y bysiau to agored yn rhoi cyfle newydd i lawer o bobl gael diwrnod gwych allan a mwynhau arfordir Bae Abertawe a Phorthcawl o safbwynt gwahanol, drwy weld y golygfeydd godidog o lawr uchaf y bws. Bydd y gwasanaethau hefyd yn denu ymwelwyr undydd i’r ardal ac yn rhoi hwb sydd i’w groesawu’n fawr i’r economi leol.”
I gael rhagor o wybodaeth am y lansiad, ewch i wefan First Cymru.