Newyddion

Trafnidiaeth Cymru yn treialu gwasanaeth cyhoeddiadau wedi’u personoli ar gyfer teithwyr sy’n colli eu clyw

Trafnidiaeth Cymru yn treialu gwasanaeth cyhoeddiadau wedi’u personoli ar gyfer teithwyr sy’n colli eu clyw

16 Mehefin 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi treialu gwasanaeth digidol newydd ar ei drenau, sy’n rhoi cyhoeddiadau wedi’u personoli am daith i deithwyr sy’n colli eu clyw.

Cafodd y rhaglen ‘Hearing Enhanced Audio Relay’ (HEAR) ei phrofi’n llwyddiannus ar drenau Trafnidiaeth Cymru rhwng Rhymni a Phenarth am ddeufis, er mwyn gwella teithiau i deithwyr sy’n colli eu clyw.

Mae’r rhaglen yn galluogi teithwyr sydd wedi’u cysylltu â’r cyfleuster Wi-Fi ar y trên i gael cyhoeddiadau wedi’u personoli am eu taith, a hynny ar eu dyfeisiau clyfar mewn amser real. Gall yr hysbysiadau hyn gael eu teilwra’n benodol yn unol â dewisiadau’r teithwyr, er enghraifft fel eu bod yn rhoi cyhoeddiadau iddynt am eu cyrchfan yn unig, mewn fformat y gellir ei glywed a’i ddarllen. Cafodd y rhaglen HEAR ei hariannu gan Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU drwy ei chystadleuaeth ‘First of a Kind 2021’ a oedd yn werth £9 miliwn ac a gafodd ei chyflwyno gan Innovate UK (sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI)).

Meddai Michael Davies, Rheolwr Syniadau ac Arloesi Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein rhwydwaith mor hygyrch ag sy’n bosibl. Mae gweithio gyda GoMedia ar y rhaglen HEAR wedi cynnig cyfle i ni roi prawf ar raglen a allai gynnig manteision enfawr i gwsmeriaid ac annog pobl i ddewis teithio ar y trên.”

Amcangyfrifir bod colli clyw’n effeithio ar un o bob chwe oedolyn yn y DU [1], ac erbyn 2031 bydd 14.5 miliwn o bobl, sef tua 20% o boblogaeth y DU, yn colli eu clyw i ryw raddau [2]. Mae dros 60% o deithwyr ag anghenion o ran hygyrchedd yn ei chael yn anodd teithio’n annibynnol, sy’n golygu ei bod yn bwysicach nag erioed i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn fwy hygyrch i bob teithiwr.

Meddai Roger Matthews, Rheolwr Gyfarwyddwr GoMedia:

“Mae’r rhaglen HEAR yn cynnig ateb sy’n fwy hyblyg a chost-effeithlon na gosod dolenni clyw drud ar drenau. At hynny, mae manteision y rhaglen hon yn fwy na gwella hygyrchedd i deithwyr sy’n colli eu clyw. Mae’r ap ei hun yn ap y gellir ei deilwra, mae’n gallu defnyddio mwy nag un iaith ac mae’n gallu rhoi trosolwg i deithwyr o gyhoeddiadau a wnaed o’r blaen a diweddariadau am unrhyw oedi, sy’n golygu ei fod yn adnodd defnyddiol i bob teithiwr, p’un a ydynt yn ymweld o dramor neu’n awyddus i ymlacio yn ystod eu taith heb orfod poeni am fod yn effro i gyhoeddiadau.”

GoMedia – sy’n is-gwmni i Icomera ac EQUANS – wnaeth ddatblygu’r dechnoleg gyda chymorth gan yr elusennau Hearing Link a Hearing Dogs er mwyn lleihau’r anawsterau y mae teithwyr ag anghenion o ran hygyrchedd yn eu hwynebu, gan ddefnyddio technoleg bwrpasol a gaiff ei gyrru gan wybodaeth amser real.

 

Canfu arolwg o 58 o bobl sy’n colli eu clyw, a gynhaliwyd gan yr elusennau Hearing Link a Hearing Dogs, y byddai 96% ohonynt yn hoffi cael rhaglen fel HEAR ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ar y pryd, dim ond 7% oedd yn weddol hyderus y byddent yn cael gwybod am newidiadau a phroblemau teithio yn ystod eu taith, a dim ond 16% oedd yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn gyfartal o’u cymharu â phobl nad ydynt yn colli eu clyw.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon