Newyddion

Grŵp Arriva yn cyhoeddi Sefydliad Dyfodol Di-allyriadau newydd

Grŵp Arriva yn cyhoeddi Sefydliad Dyfodol Di-allyriadau newydd

20 Mehefin 2022

  • Bydd y Sefydliad yn cyflymu siwrnai Arriva at sefyllfa sero net ar draws Ewrop, gan weithio mewn partneriaeth â dinasoedd a rhanbarthau
  • Bydd y ffocws cychwynnol ar fysiau, a bydd trenau, adeiladau a phrosesau’n rhan o’r cylch gorchwyl hefyd

Mae’r cwmni trafnidiaeth teithwyr pan-Ewropeaidd, Grŵp Arriva, wedi cyhoeddi Sefydliad Dyfodol Di-allyriadau newydd a fydd yn cael ei arwain gan dîm o arbenigwyr ym maes cynllunio fflyd, er mwyn cyflymu siwrnai’r cwmni at sefyllfa sero net mewn partneriaeth â dinasoedd a rhanbarthau.

 

Bydd y Sefydliad yn ganolfan wybodaeth ac arbenigedd ar gyfer Awdurdodau Trafnidiaeth Teithwyr ac unedau busnes Arriva, a bydd yn rhannu profiad ac arfer gorau pan-Ewropeaidd ym maes cyflwyno tanwydd amgen a throi fflyd yn fflyd ddi-allyriadau. Bydd hynny’n helpu i lunio strategaethau datgarboneiddio tymor hwy ar y cyd ag awdurdodau trafnidiaeth trefi a dinasoedd.

 

Mae Anne Hettinga, sy’n Aelod o Fwrdd Grŵp Arriva ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn yr Iseldiroedd, yn arwain strategaeth gynaliadwyedd ehangach Arriva ar draws Ewrop. Meddai:

“Mae’n ddatblygiad gwych i Arriva, oherwydd mae’n ein galluogi i ddod â’n holl arbenigedd ynghyd dan un to rhithiol. Rwy’n falch iawn o bopeth sydd wedi’i gyflawni eisoes, ond rhaid yn awr i ni geisio cyflymu’r broses ddatgarboneiddio yn Ewrop, a bydd trafnidiaeth teithwyr yn hollbwysig o ran hynny.”

 

Mae’r Sefydliad yn bwriadu creu cydberthnasau a phartneriaethau â nifer o sefydliadau allanol a fydd, yn eu tro, yn meithrin arbenigedd a dealltwriaeth fewnol Arriva ym maes y technolegau diweddaraf sy’n dod i’r amlwg. Bydd y partneriaethau hynny’n cynnwys cwmnïau ynni gwyrdd, sefydliadau academaidd, arloeswyr technolegol, peirianwyr, a’r sawl sy’n dylunio ac yn gweithgynhyrchu cerbydau.

 

Meddai Matt Greener, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dyfodol Di-allyriadau:

“Mae atebion cynaliadwy o ran trafnidiaeth teithwyr yn elfen hollbwysig o’r siwrnai at sefyllfa sero net, a bydd partneriaethau’n allweddol i gyflawni hynny.  Bydd angen i lywodraethau, awdurdodau lleol, gweithredwyr, gweithgynhyrchwyr, academyddion, peirianwyr a darparwyr ynni ddod ynghyd i arloesi a datrys heriau er mwyn sicrhau newid cyflymach. Rwy’n llawn cyffro ynglŷn â rôl fy nhîm a’r cyfraniad y byddwn yn ei wneud dan faner ein Sefydliad Dyfodol Di-allyriadau.”

Mae gan Grŵp Arriva rwydwaith unigryw ar draws 14 o wledydd Ewrop, sy’n fwy nag unrhyw gwmni arall yn Ewrop sy’n cystadlu ag ef, ac mae pob un ohonynt wedi cyrraedd cam gwahanol ar hyd y siwrnai o ran cynaliadwyedd. Mae hynny’n golygu bod gan y Grŵp brofiad o ymwneud â gwahanol fathau o dechnolegau ynni amgen, a’i fod yn gwybod beth yw’r heriau wrth geisio galluogi newidiadau sydd weithiau’n gymhleth ac y mae gofyn cael y seilwaith cywir ar eu cyfer er mwyn iddynt fod yn llwyddiannus. Er enghraifft, gall sicrhau’r capasiti grid angenrheidiol ar gyfer depo cerbydau trydan gymryd blynyddoedd mewn rhai gwledydd. Fel arweinydd ym maes atebion cynaliadwy o ran trafnidiaeth, bydd dealltwriaeth werthfawr Arriva yn hybu’r gwaith o ddatblygu strategaethau a buddsoddiad hirdymor ar gyfer dinasoedd a rhanbarthau.

 

Mae’r Sefydliad wedi’i greu er mwyn cefnogi gweledigaeth Arriva, sef helpu i lunio dyfodol lle mae trafnidiaeth teithwyr yn ddewis gorau. Er mwyn cyflawni hynny mae partneriaethau ynghyd â pholisïau clir gan lywodraethau, sy’n annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn hanfodol. Bydd cael pobl i ddechrau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn gwneud gwahaniaeth sylweddol o ran y siwrnai at ddatgarboneiddio, drwy leihau’r defnydd a wneir o geir, a bydd hynny yn ei dro’n lleihau allyriadau yn ein trefi a’n dinasoedd. Ar yr un pryd, bydd mabwysiadu technoleg fwy gwyrdd a glân o ran tanwydd yn sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn cyfrannu at nod yr UE, sef bod yn niwtral o ran yr hinsawdd erbyn 2050.

 

Mae Arriva eisoes yn gweithredu cerbydau di-allyriadau yn y rhan fwyaf o’r gwledydd Ewropeaidd y mae’n gweithredu ynddynt, gan ddefnyddio technolegau trydan a hydrogen, ac mae hefyd yn gweithredu cerbydau gan ddefnyddio tanwydd amgen megis biodanwydd, sy’n cynnwys olew llysiau hydrogenaidd, biodiesel a bio-nwy (biomethan). Mae’r mathau hyn o danwydd amgen yn ei gwneud yn bosibl sicrhau gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau tra caiff strategaethau datgarboneiddio tymor hwy eu llunio.

 

Yn rhan o’i waith, bydd y Sefydliad Dyfodol Di-allyriadau hefyd yn dadansoddi costau cylch oes llawn cerbydau yn ogystal ag effeithiau amgylcheddol, er mwyn mynd i’r afael â’r broses angenrheidiol o drawsnewid rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus gan eu gwneud yn fwy cynaliadwy a fforddiadwy.

 

Bydd y ffocws cychwynnol ar newid y fflyd fysiau, ond bydd y Sefydliad hefyd yn gyfrifol am drenau, adeiladau a phrosesau. Mae Arriva wedi bod yn ymwneud eisoes â datblygu, treialu a gweithredu technolegau hybrid ar gyfer trenau yn y DU a’r Iseldiroedd. Mae rhai cymhlethdodau ychwanegol yn perthyn i’r diwydiant rheilffyrdd, gan fod angen trydaneiddio cledrau o hyd, sy’n rhywbeth y mae cwmnïau seilwaith rheilffyrdd yn hytrach na gweithredwyr yn gyfrifol amdano’n draddodiadol. Dyna pam y bydd partneriaethau’n hollbwysig i ddyfodol trafnidiaeth gynaliadwy.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon