Newyddion

Mae yn ei ôl! Bydd ‘Mis Dal y Bws’ yn cael ei ail-lansio ar gyfer Medi 2022

Mae yn ei ôl! Bydd ‘Mis Dal y Bws’ yn cael ei ail-lansio ar gyfer Medi 2022

27 Mehefin 2022

Mae Bus Users yn galw ar deithwyr, gweithredwyr, awdurdodau lleol, grwpiau teithwyr a darparwyr cludiant cymunedol i gymryd rhan ym ‘Mis Dal y Bws’ ym mis Medi eleni. 

Hon fydd y flwyddyn gyntaf i’r elusen gynnal yr ymgyrch ers i Greener Journeys drosglwyddo’r awenau yn 2020. Er bod llawer o bobl wedi dychwelyd erbyn hyn i ysgolion, swyddfeydd a digwyddiadau cymdeithasol, mae nifer y bobl sy’n teithio ar fysiau wedi parhau’n is nag yr oedd cyn y pandemig. 

Mae Bus Users am i ‘Fis Dal y Bws’ ddathlu’r bws fel dull cynaliadwy, cynhwysol a hygyrch o deithio, sy’n lleihau tagfeydd traffig, yn gwella ansawdd yr aer ac yn darparu mynediad i gyfleoedd bywyd. 

Meddai Claire Walters, Prif Weithredwr Bus Users, wrth lansio’r ymgyrch:

“Wrth i fywyd normal ailgychwyn, rydym am i bobl a oedd yn arfer teithio ar y bws i ailddechrau gwneud hynny. Mae ymchwil wedi dangos yn gyson bod bysiau’n ddiogel, er gwaetha’r hyn yr oedd negeseuon y Llywodraeth yn ei ddweud yn ystod y pandemig.” 

Mae Claire hefyd yn galw ar bobl nad ydynt erioed wedi defnyddio bysiau i roi cynnig ar wneud hynny:

“Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn synnu at yr hyn y gall bysiau ei gynnig yn awr o safbwynt technoleg, esmwythdra, fforddiadwyedd a hygyrchedd. Dylai fod gan bob bws lawr isel i hwyluso mynediad, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt erbyn hyn yn cynnig Wi-Fi rhad ac am ddim, apiau ar gyfer tocynnau a gwybodaeth amser real, cyhoeddiadau a glywir ac a welir ar y bws, a gyrwyr cymwys tu hwnt sydd wrth law i gynnig help a chefnogaeth yn ystod pob cam o’r daith. Mae ‘Mis Dal y Bws’ yn gyfle gwych i hyrwyddo manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol teithio ar fysiau, ac yn gyfle gwych i ddiogelu gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.” 

Meddai Claire Haigh, cyn-Brif Weithredwr Greener Journeys a lansiodd yr ymgyrch yn wreiddiol yn 2013:

“Rwyf wrth fy modd bod Bus Users yn cynnal ‘Mis Dal y Bws’. Wrth i fywyd normal ailgychwyn, mae cymaint i’w ddathlu am fysiau. Mae bysiau’n adnodd pwerus dros ben o safbwynt dod â chymunedau ynghyd a mynd i’r afael ag unigrwydd, a defnyddio’r bws yn lle’r car yw un o’r ffyrdd gorau y gallwn leihau llygredd a chefnogi ein heconomi.” 

Bydd Bus Users yn cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb a digwyddiadau rhithiol drwy gydol y mis, ochr yn ochr ag ymgyrchoedd ar gyfryngau cymdeithasol a phartneriaethau ag elusennau, cyrff trafnidiaeth a grwpiau teithwyr. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â Bus Users drwy ffonio 0300 111 0001 neu anfon neges ebost i catchthebus@bususers.org 

Ar gyfer unrhyw ymholiadau gan y wasg, cysylltwch â Vicki Pulman ar 07785 768580. 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon