Adventure Travel yn caffael llwybrau newydd ym Mro Morgannwg
05 Gorffennaf 2022Mae disgwyl y bydd Adventure Travel yn cymryd dau lwybr bysiau allweddol ym Mro Morgannwg oddi ar Easyway of Pencoed, pan fydd y cwmni annibynnol hwnnw’n gorffen masnachu ddiwedd mis Gorffennaf.
Mae Adventure Travel, sy’n weithredwr trafnidiaeth blaenllaw yn y de, wedi dod i gytundeb â Chyngor Bro Morgannwg i weithredu llwybrau 88 a B3 o 1 Medi ymlaen. Felly, bydd y ddau wasanaeth yn medru gweithredu’n ddi-fwlch yn ystod yr haf.
Mae llwybr 88 yn cysylltu Penarth â’r Barri drwy Sili a Thregatwg. Mae llwybr B3 yn gweithredu yn y Barri, ac mae arosfannau’r gwasanaeth yn cynnwys canol y dref a’r doc. Ar hyn o bryd mae Adventure Travel, sy’n gweithredu dros 40 o wasanaethau trefol a gwledig ar draws y de, wrthi’n sicrhau bod ganddo yrwyr a cherbydau i reoli’r ychwanegiadau newydd hyn at ei bortffolio, ac mae wedi addo na fydd y newid yn achosi unrhyw broblemau teithio i deithwyr.
Meddai Adam Keen, Rheolwr Gyfarwyddwr Adventure Travel: “Yn anffodus, mae Easyway – sydd ag enw da iawn yn lleol – wedi penderfynu gorffen masnachu. Fodd bynnag, rydym yn falch o fod mewn sefyllfa i allu camu i’r adwy a chymryd rheolaeth ar wasanaethau’r Barri a Phenarth, a byddwn yn parhau i weithredu’r ddau lwybr heb wneud unrhyw newidiadau i’r amserlenni cyfredol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cyd-fynd yn dda â’n strategaeth hirdymor i dyfu ein busnes, ac maent yn wasanaethau defnyddiol i bobl y de.
“Rydym wrthi’n cadarnhau’r agweddau ymarferol ar weithredu’r ddau lwybr newydd, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddarparu’r gwasanaeth o safon a ddarperir gan y gweithredwr presennol. Byddwn yn staffio’r llwybrau â thîm bach o yrwyr rheolaidd. Rydym yn gobeithio y bydd rhai ohonynt yn dod atom o Easyway, fel bod teithwyr ar wasanaethau 88 a B3 yn gallu parhau i feithrin perthynas â’r gyrwyr sy’n gweithredu eu gwasanaethau.”
Meddai’r Cynghorydd Bronwen Brookes, yr Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy, Cyngor Bro Morgannwg: "Mae’n ofnadwy o drist gweld Easyway yn dod i ben. Mae’r cwmni wedi darparu cludiant ysgol a gwasanaethau bws lleol a gynhelir i Fro Morgannwg ers blynyddoedd lawer. Mae Easyway wedi bod yn weithredwr uchel iawn ei barch yn yr ardal a byddwn yn gweld ei eisiau’n fawr. Fodd bynnag, rwy’n falch bod y Cyngor yn gallu darparu cymorth ariannol i sicrhau parhad gwasanaethau 88 a B3, sy’n wasanaethau bws lleol a gynhelir. Bydd Adventure Travel yn gweithredu’r gwasanaethau hyn yn y dyfodol, gan barhau â’r ddarpariaeth sydd mor hanfodol i’r cymunedau lleol y byddant yn eu gwasanaethu."
I gael yr holl fanylion am amserlenni a phrisiau tocynnau ar gyfer pob un o lwybrau Adventure Travel, ewch i adventuretravel.cymru.