Newyddion

Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi cyngor teithio oherwydd tywydd eithafol

Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi cyngor teithio oherwydd tywydd eithafol

15 Gorffennaf 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a Network Rail yn gofyn i gwsmeriaid wirio cyn teithio gan y bydd tywydd poeth yn debygol o achosi tarfu ac effeithio ar amodau teithio.

Gan fod y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd ambr am wres eithafol sy'n gam anarferol, bydd amodau teithio ar y rheilffordd a'r ffordd yn heriol, gyda thymheredd  yn cyrraedd canol y tridegau yng Nghymru erbyn dydd Llun.

Mae’n debygol y bydd Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro ar waith ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd i leihau’r risg a achosir gan y cledrau’n gorboethi.  Bydd hyn yn debygol o gynyddu amseroedd teithio ac arwain at newidiadau ar fyr rybudd i wasanaethau.

Gall tymereddau eithafol hefyd arwain at heriau eraill o ran seilwaith a fflyd megis namau ar y cledrau a pheiriannau'n gorboethi.

Mae disgwyl i wasanaethau fod yn brysur iawn, yn enwedig i leoliadau arfordirol fel cyrchfannau arfordirol Gogledd Cymru, Gorllewin Cymru ac Ynys y Barri.  Bydd hyn yn gwneud i drenau a bysiau deimlo'n boethach, hyd yn oed ar gerbydau sydd â system aerdymheru.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn argymell bod cwsmeriaid yn gofalu eu bod yn yfed digon o ddŵr wrth deithio.  Mae mannau ail-lenwi dŵr am ddim ar gael yng ngorsafoedd Llandudno, Machynlleth a Chaerdydd Canolog.  Gellir dod o hyd i awgrymiadau eraill ar gyfer teithio ar drên neu fws mewn tywydd poeth ar flog TrC.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym yn parhau i weld galw uchel iawn am ein gwasanaethau rheilffordd, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd da.  Mae'r holl gerbydau sydd ar gael mewn gwasanaeth a lle bo modd, rydym yn darparu trafnidiaeth ar y ffordd hefyd.

“Mae bellach yn bwysicach nag erioed i gynllunio ymlaen llaw gan ddefnyddio'r wybodaeth ar ein gwefan newydd, ein ap a ddiweddarwyd yn ddiweddar neu ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.  Dylai teithwyr ystyried a ydynt am deithio ar drenau sy'n debygol o fod yn llawn ac yn sefyll, a defnyddio ein Gwiriwr Capasiti – offeryn ar-lein sy'n galluogi cwsmeriaid i weld pa drenau sy'n debygol o fod â'r mwyaf o le.”

Dywedodd Dan Booth, rheolwr cyflenwi’r tymhorau Network Rail Cymru a’r Gororau:

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyfyngu ar darfu ar wasanaethau yn ystod tywydd poeth, ond diogelwch yw ein prif flaenoriaeth.

“Mae cyfyngiadau cyflymder yn debygol o fod ar waith ar draws sawl rhan o Gymru a’r Gororau, wrth i drenau arafach leihau’r risg o ddifrodi'r cledrau gan eu bod yn chwyddo mewn tywydd poeth.

“Rydym yn cynghori teithwyr i gario potel o ddŵr a chofio gwirio cyn teithio rhag ofn bydd unrhyw oedi neu darfu yn digwydd.”

Gallwch ddarllen mwy am sut mae Network Rail yn paratoi ar gyfer tywydd poeth yma.

Dywedodd Jo Foxall, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru:

"Bydd gofalu am les ein cwsmeriaid fel y gallant barhau i deithio pan fo angen yn ystod y tywydd poeth ar frig blaenoriaethau’r diwydiant trafnidiaeth dros yr wythnos nesaf.

“Gall bwrw golwg ar eich opsiynau teithio ar fap teithio Traveline Cymru er mwyn treulio llai o amser yn yr haul poeth, cadw llygad ar unrhyw darfu ac arbed y rhif ffôn 0800 464 0000 yn eich ffonau er mwyn cael y cyngor teithio diweddaraf eich helpu i sicrhau taith esmwyth.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon