Newyddion

Y gwyliau ysgol wedi dechrau a phlant yn cael teithio am ddim yn ystod yr haf

Y gwyliau ysgol wedi dechrau a phlant yn cael teithio am ddim yn ystod yr haf

25 Gorffennaf 2022

Mae’n bleser gan Newport Bus gyhoeddi ei gynnig dros yr haf – sef y bydd plant yn cael teithio am ddim os ydynt yng nghwmni oedolyn.

Er mwyn i chi allu gwneud yn fawr o’r gweithgareddau a’r prydau am ddim sydd ar gael yn ystod gwyliau’r ysgol, mae Newport Bus yn cynnig teithiau am ddim ar gyfer hyd at ddau o blant 15 oed ac iau sy’n teithio gydag oedolyn sydd â thocyn neu gerdyn dilys, gan gynnwys cerdyn teithio rhatach. Mae’r cynnig i deithio am ddim yn ddilys o ddydd Sadwrn 23 Gorffennaf tan ddydd Sul 4 Medi.

Mae gan ddinas Casnewydd barciau hardd i chi eu mwynhau ac mae Glan yr Afon, Newport Live ac eraill yn cynnal llawer o weithgareddau a digwyddiadau rhad ac am ddim yn ystod yr haf hefyd. Mae Newport Bus yn cynnig ffordd ratach i chi o gludo’r plant yno.

Mae gan Newport Bus lwybrau sy’n gwasanaethu’r ddinas gyfan a thu hwnt. Gyda Newport Bus, gallwch deithio ymhellach hefyd i Gaerdydd (llwybr 30 yn unig), Cas-gwent, Cwmbrân (llwybr 29 yn unig) a Threfynwy drwy bentrefi hardd Brynbuga a Rhaglan.

Mae syniadau ynghylch Pethau i’w gwneud i’w cael ar dudalen y cwmni.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon