Newyddion

Stagecoach yw’r gweithredwr bysiau cyntaf yn y DU i gwblhau rhaglen genedlaethol i osod technoleg newydd ar ei fysiau ar gyfer rhybuddio ynghylch pontydd

Stagecoach yw’r gweithredwr bysiau cyntaf yn y DU i gwblhau rhaglen genedlaethol i osod technoleg newydd ar ei fysiau ar gyfer rhybuddio ynghylch pontydd

27 Gorffennaf 2022

  • Erbyn hyn mae’r dechnoleg wedi’i gosod ar dros 4000 o gerbydau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
  • Mae’r prosiect, sy’n werth £4 miliwn, yn cryfhau mesurau diogelwch presennol i atal bysiau rhag taro yn erbyn pontydd
  • Mae’n gwella system flaenllaw GreenRoad ar gyfer sicrhau arferion gyrru diogel a defnydd effeithlon o danwydd

Mae Stagecoach, gweithredwr bysiau mwyaf y DU, wedi cyhoeddi ei fod wedi llwyddo i gwblhau un o’i brosiectau allweddol i wella diogelwch. Mewn partneriaeth â GreenRoad, Stagecoach yw’r gweithredwr bysiau cyntaf yn y DU i gyflwyno technoleg newydd sy’n adnabod pontydd isel ar ei fflyd gyfan o fysiau deulawr, sy’n cyfateb i dros 4000 o gerbydau.

Bydd y prosiect, sy’n werth £4 miliwn, yn cryfhau’r mesurau presennol sydd ar waith i atal bysiau rhag taro yn erbyn pontydd, a bydd yn adeiladu ar ddefnydd blaengar Stagecoach o system GreenRoad sy’n hybu arferion gyrru diogel a defnydd effeithlon o danwydd.

Mae system GreenRoad yn defnyddio system LED syml, tebyg i oleuadau traffig, ar y dangosfwrdd i roi adborth yn y fan a’r lle i yrwyr am symudiadau’r cerbyd, gan hybu arferion gyrru mwy esmwyth a diogel a defnydd mwy effeithlon o danwydd, sy’n gwneud y siwrnai’n fwy cysurus i deithwyr.

Bydd system ddeallus GreenRoad yn defnyddio data GPS ynghylch lleoliad y cerbyd a gwasanaethau mapio i rybuddio’r gyrrwr ynghylch pontydd isel gerllaw. Os yw’r dechnoleg yn synhwyro bod y bws yn mynd i gyfeiriad pont isel, bydd yn seinio rhybudd yn y cerbyd gan alluogi’r gyrrwr i ddefnyddio llwybr arall diogel ac osgoi’r bont.

Meddai Carla Stockton-Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn y DU: “Mae tîm y prosiect wedi gweithio’n galed tu hwnt, mewn partneriaeth â GreenRoad, i gyrraedd y garreg filltir hon ac rwy’n falch iawn o’r llwyddiant hwn a’r manteision y bydd yn eu cynnig i’n gweithwyr a’n cwsmeriaid.

“Mae’n enghraifft wych o waith tîm, ymroddiad a gwaith caled ein staff i wella’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau er mwyn i ni allu cyrraedd ein nod, sef bod yn hoff ddarparwr trafnidiaeth y genedl.

“Y man cychwyn ar gyfer popeth a wnawn yw diogelwch: ar gyfer ein cwsmeriaid, ein pobl, cerddwyr a phobl eraill sy’n defnyddio’r ffyrdd. Mae bysiau eisoes ymhlith y dulliau mwyaf diogel o deithio sydd ar gael. Ond bob blwyddyn, rydym yn buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn hyfforddiant ar gyfer ein tîm o yrwyr proffesiynol ac mewn technoleg newydd i wneud ein gweithrediadau trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy diogel fyth.”

Meddai Richard Hemming, Is-lywydd Llwyddiant Cwsmeriaid gyda GreenRoad: “Fel darparwr mwyaf blaenllaw systemau datblygedig sy’n hybu diogelwch gyrwyr a cherbydau, rydym yn falch iawn o fod wedi cydweithio â Stagecoach ar ddatblygu a chyflwyno ein system wych ar gyfer rhybuddio ynghylch pontydd isel. Dyma enghraifft arall o’n hymrwymiad i gynnig systemau blaengar i’r diwydiant, sy’n gwella diogelwch yn fawr gan warchod y cyhoedd, lleihau risg ac achub bywydau yn y pen draw.”

Stagecoach yn treialu am y tro cyntaf y dechnoleg newydd ar gyfer rhybuddio ynghylch pontydd, yng Nghaergrawnt:

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon