
Teithiau am ddim ar fysiau yn Abertawe – mis Gorffennaf a mis Awst 2022
29 Gorffennaf 2022Haf 2022 wedi dechrau!
Mae’n bleser gan Adventure Travel gynnig teithiau am ddim i chi ar fysiau yn Abertawe yn ystod yr haf eleni, drwy garedigrwydd Cyngor Abertawe.
Bydd teithiau am ddim ar fysiau ar gael bob dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun o 29 Gorffennaf tan 29 Awst (sef y diwrnod olaf). Dyma’r dyddiadau pan fyddwch yn gallu teithio am ddim:
Dydd Gwener 29 Gorffennaf
Dydd Sadwrn 30 Gorffennaf
Dydd Sul 31 Gorffennaf
Dydd Llun 1 Awst
Dydd Gwener 5 Awst
Dydd Sadwrn 6 Awst
Dydd Sul 7 Awst
Dydd Llun 8 Awst
Dydd Gwener 12 Awst
Dydd Sadwrn 13 Awst
Dydd Sul 14 Awst
Dydd Llun 15 Awst
Dydd Gwener 19 Awst
Dydd Sadwrn 20 Awst
Dydd Sul 21 Awst
Dydd Llun 22 Awst
Dydd Gwener 26 Awst
Dydd Sadwrn 27 Awst
Dydd Sul 28 Awst
Dydd Llun 29 Awst
Mae’r cynnig hwn yn ddilys ar y dyddiadau hyn yn unig, a rhaid i bob taith gael ei gwneud cyn 7pm.
Mae eich teithiau am ddim ar gael ar y llwybrau isod.
Y llwybrau sydd ar gael: 14, 16, 20, 24, 35, 43, 45, 46, 54, 115, 116, 117, 118 a 119, T6* ac X6C
Telerau ac amodau
Cofiwch mai dim ond y llwybrau hyn fydd yn cynnig cynllun teithio am ddim. Bydd gofyn i chi dalu am docyn ar bob gwasanaeth arall.
Bydd yr amrywiad yn galluogi’r sawl sydd rhwng pump a 59 oed (gan gynnwys yr oedrannau hynny), a’r sawl sy’n 60 oed neu hŷn nad oes ganddynt Gerdyn Teithio Rhatach Cymru Gyfan, i deithio’n rhad ac am ddim ar wasanaethau bws lleol cofrestredig a chymwys yn ardal Abertawe ar y dyddiadau a nodir uchod.
Rhaid i bob taith gychwyn cyn 7pm a rhaid iddi ddechrau/gorffen o fewn ffin Dinas a Sir Abertawe. Os bydd y daith yn mynd y tu hwnt i’r ffin, bydd angen talu am docyn.
*Dim ond o Orsaf Fysiau Abertawe i Bevans Row y bydd modd teithio am ddim ar wasanaeth T6.