Newyddion

Tarfu ar Awst 13 oherwydd gweithredu diwydiannol

Tarfu ar Awst 13 oherwydd gweithredu diwydiannol

10 Awst 2022

Cynghorir teithwyr rheilffordd i beidio â theithio oni bai bod eu taith yn hanfodol ar nifer o lwybrau dydd Sadwrn yma (Awst 13) oherwydd gweithredu diwydiannol.

Nid yw Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhan o weithredu diwydiannol dydd Sadwrn gan aelodau o undeb y gyrwyr trenau ASLEF, ond mae rhai o’i wasanaethau’n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i’r amserlen gyfyngedig iawn a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill.

Disgwylir i wasanaethau TrC yn Ne Cymru rhwng Caerfyrddin a Chasnewydd fod yn brysur iawn oherwydd nad oes unrhyw wasanaethau Great Western Railway (GWR) yn rhedeg.  Bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg gwasanaethau ychwanegol ar hyd y llwybr hwn er mwyn creu mwy o le.

Disgwylir i wasanaethau rhwng Caerdydd a Lydney, Amwythig a Wolverhampton* a gwasanaethau ar hyd Arfordir Gogledd Cymru fod yn brysur iawn gan na fydd unrhyw wasanaethau CrossCountry, West Midlands Trains ac West Coast Avanti yn gweithredu o gwbl ddydd Sadwrn 13 Awst.

Mae TrC yn cynghori cwsmeriaid i beidio â theithio oni bai bod eu taith yn hanfodol rhwng:

  • Caerfyrddin a Chasnewydd
  • Caerdydd a Lydney
  • Amwythig a Wolverhampton
  • Arfordir Gogledd Cymru

Gall teithio i nifer o ddigwyddiadau a gynhelir ddydd Sadwrn 13 Awst gael ei effeithio gan y gweithredu diwydiannol a chynghorir pob cwsmer yn gryf i wirio am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio ar wefan TrC, ap ffôn neu sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Speedway GP FIM yn Stadiwm Principality (3pm), Caerdydd.
  • Welsh Fire v Birmingham Phoenix (3pm) Gerddi Sophia, Caerdydd.
  • Tim Pêl-droed Dinas Caerdydd yn erbyn Tim Pêl-droed Dinas Birmingham (12.30pm) yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
  • Pete Tong a'r Gerddorfa Symffoni (4pm), Stadiwm Zip World, Bae Colwyn.

Bydd staff ychwanegol ar gael yn ein gorsafoedd i helpu cwsmeriaid.

*Oherwydd y bydd gorsaf Birmingham New Street ar gau ddydd Sadwrn 13 Awst, bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn dechrau/gorffen yn Wolverhampton.  Bydd West Midlands Metro yn derbyn tocyn gan deithwyr sydd angen teithio rhwng Birmingham New Street a Wolverhampton.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon