Newyddion

Cynllun fflecsi peilot Casnewydd wedi dod i ben

Cynllun fflecsi peilot Casnewydd wedi dod i ben

12 Awst 2022

Bydd cynllun peilot bws fflecsi ar gyfer Casnewydd yn dod i ben ar 25 Medi 2022 ar ôl cyfnod llwyddiannus o 12 mis o dreialu teithio sy’n ymateb i’r galw mewn amgylchedd trefol.

Darparodd prosiect peilot Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, a gefnogwyd gan Gyngor Casnewydd a Newport Transport, ddata sylweddol a fydd yn awr yn cael ei ddadansoddi a’i ddefnyddio i wella cynllunio llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal yn y dyfodol.

Mae’r peilot hefyd wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol ar sut mae arferion teithio cwsmeriaid wedi newid yn ystod pandemig Covid, gan ddangos bod llai o bobl yn teithio i’r gwaith ers cyflwyno trefniadau gweithio gartref a bod teithiau hamdden wedi cynyddu.

Bydd Newport Transport yn cyhoeddi eu hamserlen bysiau newydd yr wythnos yn dechrau 22 Awst a bydd y gwasanaethau newydd yn cael eu cyflwyno o 4 Medi 2022, gan roi cyfnod pontio o dair wythnos i deithwyr cyn i’r gwasanaeth fflecsi ddod i ben.

Dywedodd Andrew Sherrington, Pennaeth Rhwydwaith Bysiau a Datblygu Gwasanaethau TrC: “Yn TrC rydym yn edrych yn barhaus am ffyrdd o wella trafnidiaeth gyhoeddus a darparu rhwydwaith sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid.   Rhoddodd y cynllun peilot fflecsi yng Nghasnewydd y cyfle i ni weithredu a datblygu trafnidiaeth sy’n ymateb i’r galw mewn lleoliad trefol.  Rydym hefyd wedi cael cyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol yn ei sgil am y teithio sy'n digwydd o amgylch y ddinas.

“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y peilot a’u hannog i gadw llygad am yr amserlen bysiau newydd a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn.”

Ychwanegodd Scott Pearson, Rheolwr Gyfarwyddwr Newport Transport: “Roedd Newport Transport yn falch o gael ei ddewis i weithredu’r gwasanaeth fflecsi trefol peilot ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, ac mae canlyniad hynny wedi golygu ein bod wedi gallu datblygu ein rhwydwaith gan ddefnyddio’r data a gasglwyd yn ystod y cyfnod peilot hwn.

“Bydd Newport Transport yn gwneud nifer o welliannau i’r gwasanaeth o ddydd Sul 4 Medi gyda’r bwriad o liniaru’r cynllun peilot fflecsi sy’n dod i ben.  Bydd rhagor o wybodaeth fanwl yn dilyn.  Bydd ein tîm gweithrediadau yn parhau i fonitro a chasglu adborth cwsmeriaid i sicrhau bod ein gwasanaeth yn hygyrch i’n cwsmeriaid yn ninas Casnewydd a’n rhwydwaith ehangach.”

Bydd rhagor o wybodaeth i gwsmeriaid am y gwasanaethau bws newydd ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf yn   Newport Bus - Greener | Doethach | Mwy diogel  .

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon