Newyddion

Newport Bus yn cefnogi #PrideinthePort drwy gynnig teithiau am ddim ar fysiau i bawb

Newport Bus yn cefnogi #PrideinthePort drwy gynnig teithiau am ddim ar fysiau i bawb

16 Awst 2022

Fel prif weithredwr bysiau dinas Casnewydd ac fel cwmni sy’n cefnogi ei gymuned gyfan, mae’n bleser gan Newport Bus gyhoeddi ei gefnogaeth o’r newydd i Pride, a’i gefnogaeth eleni’n benodol i’r digwyddiad Pride in the Port y bu disgwyl mawr amdano.

Bydd Newport Bus yn cynnig trafnidiaeth am ddim ar draws ei rwydwaith i gyd (ac eithrio ar wasanaeth T7 TrawsCymru) yn ystod dydd Sadwrn 3 Medi. Ychydig iawn o leoedd parcio fydd ar gael yn Belle Vue Park ac ar y strydoedd cyfagos, a bydd pobl o bob cwr o’r ddinas a’r rhanbarth yn gallu teithio i’r dathliadau heb orfod talu costau teithio ychwanegol.

Mae Belle Vue Park ar Cardiff Road wrth ymyl Ysbyty Brenhinol Gwent, ac mae modd defnyddio amryw wasanaethau i gyrraedd yno. Mae gan bob un o’r gwasanaethau hynny gysylltiadau yn yr orsaf fysiau yn Friars Walk/Sgwâr y Farchnad – 2A/C Gaer, 37 Rhiwderyn, 30 Caerdydd, 40/41 Pilgwenlli, 35/36 arhosfan Duffryn ar Cardiff Road, arhosfan bysiau Waterloo Road / Belle Vue Park, a 2A/C ar Stow Hill, arhosfan bysiau: Stow Park Crescent.

Gall pobl ddisgwyl diwrnod llawn o sbort a sbri gyda digon o enfysau. Caiff y digwyddiad ei gynnal gan Radio Dinas Casnewydd, a bydd amrywiaeth eang o adloniant am ddim ar gael i bawb, a fydd yn cynnwys FiFi Fierce a Minus De Kock; perfformwyr stryd; gweithgareddau chwaraeon dan arweiniad tîm o Newport Live; ac ystod o wybodaeth a chymorth o ran lles a ddarperir gan grwpiau LGBTQIA+ lleol a fydd yn cynnwys Rainbow Newport, Trans Aid Cymru, Umbrella Cymru a llawer mwy.

Ymhlith y digwyddiadau nos bydd dathliad stryd yng nghanol y ddinas mewn amryw leoliadau a fydd yn cynnwys Atlantica, Le Pub a McCanns, ac mae rhagor o leoliadau i’w cyhoeddi eto.

Bydd yn benwythnos o ddathliadau a fydd yn cynnwys pawb.

Meddai Andrew Mudd, Cadeirydd Pride in the Port: "Un o egwyddorion sylfaenol Pride in the Port yw na ddylai neb gael eu gorfodi i adael eu cartrefi neu’u cymuned er mwyn dathlu pwy ydyn nhw.

“Mae gallu teithio gyda balchder #TravelwithPride, heb fod gwahaniaethu a rhagfarn yn rhwystr, yn un o ddyheadau pob person LGBTQIA+ ac rydym yn falch dros ben bod Newport Bus yn ymuno â ni ar y siwrnai hon ac yn helpu i sicrhau bod modd i bob un ohonom, waeth pwy ydyn ni, deithio’n ddiogel ym mhob rhan o Gasnewydd a thu hwnt. Hoffem ddiolch o waelod calon i Newport Bus am y gefnogaeth hon – nid ar ran y gymuned LGBTQIA+ yn unig ond ar ran pawb sy’n byw yng Nghasnewydd ac ar draws rhwydwaith Newport Bus."

Meddai Adam Smith, Is-gadeirydd Pride in the Port: "Rydym yn falch bod hwn wedi troi’n ddigwyddiad Pride cymunedol go iawn, sef yr hyn yr oeddem yn breuddwydio ac yn dyheu amdano pan ddaethom ynghyd fisoedd lawer yn ôl i ddechrau cynllunio hyn. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld pawb yn ymuno â ni yn #PrideinthePort, at allu dathlu gyda’n gilydd fel Un Gymuned ac at allu teithio am ddim gyda balchder #TravelwithPride!

“Mae #PrideinthePort yn freuddwyd y mae pobl wedi bod yn awyddus i’w gwireddu ers dros 10 mlynedd. Ar 3 Medi, bydd y freuddwyd honno’n dod yn wir ac yn troi’n rhywbeth y gall pob un ohonom fod yn falch ohono ac yn hapus yn ei gylch.”

Meddai Laura Lacey, Hyrwyddwr LHDT+ a’r aelod cabinet dros seilwaith ac asedau: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag aelodau tîm Pride in the Port. Mae eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad i’r digwyddiad hwn yn wych. Mae cael cefnogaeth Newport Bus, wrth i’r cwmni ddarparu teithiau am ddim ar draws y rhwydwaith i ddathlu digwyddiad Pride cyntaf Casnewydd, yn goron ar y cyfan. Yn ogystal â helpu’r gymuned i ddod ynghyd, mae hefyd yn hybu dulliau teithio llesol ar draws y ddinas. Mae pawb ar eu hennill, felly.”

Meddai Scott Pearson, Rheolwr Gyfarwyddwr Newport Transport: ”Rydym wrth ein bodd o gael cefnogi Pride fel hyn. Yn Newport Bus, rydym wedi ymrwymo i hybu a dathlu amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y ddinas i’r un graddau ag yr ydym wedi ymrwymo i ddarparu rhwydwaith o deithiau cynaliadwy i bawb, gan annog pawb i gynllunio eu taith drwy ddinas sy’n lanach.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon