Newyddion

Gwasanaethau TrC i gael eu heffeithio gan weithredu diwydiannol

Gwasanaethau TrC i gael eu heffeithio gan weithredu diwydiannol

17 Awst 2022

Bydd y rhan fwyaf o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TrC) ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hatal am ddau ddiwrnod yr wythnos hon (Awst 18 a 20) oherwydd y gweithredu diwydiannol cenedlaethol parhaus.

Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y bydd dau ddiwrnod o weithredu diwydiannol yn digwydd ddydd Iau 18 a dydd Sadwrn 20 Awst.

Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn rhan o’r anghydfod gyda’r RMT ond o ganlyniad i’r anghydfod rhwng yr undeb a Network Rail, ni fyddwn yn gallu gweithredu gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail. 

Dydd Iau 18 a dydd Sadwrn 20 Awst – gwasanaeth rheilffordd cyfyngedig iawn, peidiwch â theithio ar y trên.

Yr unig wasanaethau fydd yn rhedeg fydd ar Linellau Craidd y Cymoedd yn Ne Cymru a gwasanaeth gwennol o Gaerdydd i Gasnewydd, gydag un trên yn rhedeg bob awr i bob cyfeiriad, rhwng 07:30 a 18:30 awr.

Ni fydd unrhyw wasanaethau TrC eraill ledled Cymru a’r Gororau yn gallu gweithredu.

Bydd gwasanaethau trên yn rhedeg rhwng Caerdydd Canolog a Rhymni, Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful ar ffurf gwasanaeth bob awr i bob cyfeiriad rhwng 07:30 a 18:30.

Bydd trenau’n gallu gweithredu rhwng Radur a Threherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful cyn 07:30 o’r gloch ac ar ôl 18:30 o’r gloch (ond dim ond hyd at 20:30 o’r gloch ar ddydd Iau 18 oherwydd gwaith peirianyddol).  Bydd trafnidiaeth ffordd yn galluogi cwsmeriaid i deithio rhwng Caerdydd Canolog a Radur i bob cyfeiriad y tu allan i'r oriau hyn.

Fodd bynnag, cynghorir cwsmeriaid y bydd capasiti ar drafnidiaeth ffordd yn hynod o gyfyngedig a disgwylir i'r holl wasanaethau trên a thrafnidiaeth ffordd fod yn hynod o brysur oherwydd y bydd llai o wasanaethau yn rhedeg.

Mae disgwyl hefyd y bydd tarfu ar y dyddiau cyn ac ar ôl y gweithredu diwydiannol a chynghorir cwsmeriaid i deithio dim ond os oes angen ar ddydd Mercher 17, dydd Gwener 19 a dydd Sul 21 Awst.

Dydd Gwener 19 Awst (y diwrnod rhwng y streiciau)

Oherwydd patrymau shifft signalwyr Network Rail a'r heriau sylweddol wrth symud trenau a chriwiau i weithredu rhwng diwrnodau streic mae'n debygol y bydd tarfu.

Llinellau Craidd y Cymoedd - Dydd Gwener 19 Awst

Bydd pob un o'r gwasanaethau cyntaf y dydd fydd yn gadael Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful yn cael eu hamseru fel eu bod yn cyrraedd Radur ar ôl 07:00 o'r gloch.  Ni fydd unrhyw drenau yn rhedeg cyn 07:00 o'r gloch ar unrhyw lein ac eithrio rhwng Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful - Radur.

Ni fydd unrhyw wasanaethau trafnidiaeth ffordd a gynlluniwyd ymlaen llaw yn rhedeg cyn 18:30 awr ar Linellau Craidd y Cymoedd.

Mae gwasanaethau’n debygol o fod yn llawer prysurach nag arfer – yn enwedig gwasanaethau cynta'r dydd.

Holl wasanaethau eraill TrC - Dydd Gwener 19 Awst

Ni fydd unrhyw drenau yn rhedeg cyn 07:00 o’r gloch ar unrhyw un o wasanaethau TrC ac maent yn debygol o fod yn llawer prysurach nag arfer – yn enwedig gwasanaethau cynta'r dydd.

Anogir cwsmeriaid i wirio gwefan, ap neu gyfryngau cymdeithasol TrC cyn teithio.

Tocynnau cyfredol

Gall cwsmeriaid sydd â thocynnau dilys nad ydynt yn docyn tymor sy’n ddilys ar gyfer teithio ddydd Iau 18 a dydd Sadwrn 20 Awst ddefnyddio’r tocynnau hyn unrhyw bryd rhwng dydd Mercher 17 a dydd Mawrth 23 Awst.  Anogir cwsmeriaid i osgoi teithio ar ddydd Gwener 19 a ddydd Sul 21 Awst gan fod disgwyl y bydd gwasanaethau yn hynod o brysur.

Fel arall, gall cwsmeriaid hawlio ad-daliad llawn, heb unrhyw ffi weinyddol.  Gall deiliaid tocyn tymor wneud cais am iawndal drwy’r broses Ad-daliad am Oedi (Delay Repay).

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon