Newyddion

Stagecoach Yn Ne Cymru Yn Buddsoddi Mewn Depo Newydd Yng Nghwmbrân

Stagecoach Yn Ne Cymru Yn Buddsoddi Mewn Depo Newydd Yng Nghwmbrân

02 Medi 2022

Ar 30 Mai, symudodd Stagecoach yn Ne Cymru i ddepo newydd sbon ar gyfer ei fysiau yng Nghwmbrân.

Bydd y safle newydd a gostiodd £7 miliwn yn gartref i dros 100 o fysiau; dros 200 o staff a fydd yn cynnwys gyrwyr bysiau a staff cynnal a chadw; yn ogystal â phrif swyddfa’r cwmni.

Bydd bysiau sy’n gweithredu o’r depo yn teithio dros ddwy filiwn o filltiroedd bob blwyddyn. Bydd gwasanaethau o’r depo yn mynd i ddinasoedd, trefi a phentrefi a fydd yn cynnwys y Fenni, Blaenafon, Cwmbrân, Pont-y-pŵl, Casnewydd a Chaerdydd.

Mae gan adran beirianneg y depo naw lôn newydd ar gyfer rhoi gwasanaeth i gerbydau, ac mae gan bob un o’r lonydd gyfarpar gwirio allyriadau; pibelli iro; lifftiau Hywema i godi bysiau er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw; ardal gwirio brêcs; ynghyd â’r cyfarpar diweddaraf ar gyfer cynnal a chadw cerbydau.

At hynny, mae gan y depo newydd gyfleuster golchi bysiau sydd â system ailgylchu dŵr; 10 cilfach ar gyfer gwefru cerbydau trydan; seilwaith ar gyfer cerbydau trydan yn y dyfodol; system wresogi glyfar; paneli solar; a tho glaswellt, caredig i’r amgylchedd, er mwyn casglu a storio dŵr glaw. Yn ogystal, mae’r depo wedi’i inswleiddio yn fwy helaeth na’r gofynion a argymhellir ac mae deunyddiau cynaliadwy a goleuadau Dextra effeithlon o ran ynni wedi’u gosod ym mhob rhan o’r cyfleuster.

Cafodd diwrnod agored swyddogol y depo ei gynnal ddydd Sadwrn, 27 Awst. Roedd cerddoriaeth, bwyd, artist balŵns, sesiynau paentio wyneb, stondinau hyrwyddo, stondin recriwtio, amrywiaeth o hen fysiau a bysiau mewn lliwiau arbennig, cyfleoedd i fynd o gwmpas y depo, a theithiau am ddim ar fws deulawr heb do o amgylch tref Cwmbrân i gyd yn rhan o’r diwrnod. Cododd Stagecoach bron £600 drwy werthu nwyddau a memorabilia. Bydd y cwmni’n cyfrannu swm sy’n cyfateb i’r arian a gasglwyd, a bydd cyfanswm o £1200 yn cael ei roi i Hosbis Plant Tŷ Hafan.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru, Nigel Winter:

“Rydym yn falch o allu dathlu bod ein depo newydd yng Nghwmbrân wedi agor, a fydd yn darparu gwasanaethau bws ar draws Torfaen a’r cyffiniau am flynyddoedd lawer i ddod.

“Mae’r cyfleuster newydd wedi’i adeiladu yn unol â safonau amgylcheddol uchel ac mae’n darparu cyfleusterau gweithredu a chyfleusterau peirianneg gwell o lawer i’r staff.

“Hoffwn ddiolch i holl ffrindiau Stagecoach a helpodd i drefnu a chynnal diwrnod mor llwyddiannus.”

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Stagecoach yn Ne Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon