Newyddion

Trafnidiaeth Cymru yn lansio ap newydd TrawsCymru

Trafnidiaeth Cymru yn lansio ap newydd TrawsCymru

26 Medi 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio ap newydd ar gyfer ei rwydwaith bysiau pellter hir Traws Cymru a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd yr ap newydd yn helpu cwsmeriaid i gynllunio eu teithiau, amserlenni bysiau a bydd yn rhoi opsiynau olrhain cerbydau byw iddynt, fel y olrhain lleoliad eu bws ar y rhwydwaith.  Bydd hefyd yn cynnig opsiwn i brynu tocynnau ar yr ap, darparu mynediad digidol i wasanaethau TrawsCymru ac yn arddangos yr arbedion carbon a wneir wrth ddewis teithio ar fws.

Trwy ddarparu gwybodaeth gliriach ar blatfform digidol mwy hygyrch, bydd yr ap yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflawni system fysiau sy'n hybu tegwch cymdeithasol ac sy'n gallu cyflawni'r raddfa o newid yn y ffordd rydym yn teithio sydd ei angen i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.

Mae TrawsCymru yn rhan annatod o rwydwaith bysiau Cymru, gan ddarparu cysylltiadau rhwng trefi a dinasoedd mawr a helpu pobl i gysylltu â chyrchfannau gwaith, addysg, iechyd a hamdden.  Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwneud gwelliannau i’r rhwydwaith, cerbydau carbon isel, integreiddio TrawsCymru a thocynnau rheilffordd a gwella seilwaith ymyl ffordd a gwybodaeth i deithwyr.

Mae'r ap yn cael ei greu gan Passenger ac ar gael yn yr App Store a Google Play.  Bydd gwefan newydd TrawsCymru yn cael ei lansio yn yr hydref eleni.

Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae ein ap a’n gwefan newydd ar gyfer TrawsCymru yn garreg filltir arwyddocaol yn ein cynlluniau i drawsnewid a gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, wrth i ni geisio creu rhwydwaith sy’n apelio at ddemograffeg llawer ehangach.

“Ein pwrpas yw bwrw ymlaen â gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith sefydlog, hawdd ei ddefnyddio o wasanaethau bysiau sy’n cysylltu’n rhwydd â dulliau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus.  Rydym am ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth dibynadwy, fforddiadwy, hyblyg a charbon isel sy’n cefnogi mwy o bobl i ddefnyddio’r bws yn lle’r car – a bydd ap a gwefan newydd TrawsCymru yn ategu at ein hymdrechion parhaus."

Ffynhonnell y wybodaeth: Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon