Newyddion

Gweithredu diwydiannol i effeithio ar wasanaethau TrC

Gweithredu diwydiannol i effeithio ar wasanaethau TrC

27 Medi 2022

Bydd y rhan fwyaf o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TrC) ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hatal am ddau ddiwrnod ym mis Hydref oherwydd y gweithredu diwydiannol cenedlaethol parhaus.

Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y bydd dau ddiwrnod o weithredu diwydiannol yn digwydd ddydd Sadwrn 1 Hydref a dydd Sul 9 Hydref, ar draws Network Rail a 15 o weithredwyr trenau.

Mae ASLEF hefyd wedi cyhoeddi y bydd ei aelodau ar streic ddydd Sadwrn 1 a dydd Mercher 5 Hydref ar draws 12 gweithredwr trenau, tra bo TSSA wedi cyhoeddi y bydd ar streic ar 1 Hydref yn Network Rail ac 11 o weithredwyr trenau.

Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn ymwneud â’r gweithredu diwydiannol hwn, ond o ganlyniad i’r anghydfod rhwng yr undebau a Network Rail, ni fydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu gweithredu nifer o wasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail ar 1 ac 8 Hydref, tra bydd rhai gwasanaethau’n llawer prysurach na'r arfer ar 5 Hydref.

Ceir rhagor o wybodaeth am y gweithredu diwydiannol ar wefan TrC   yma  .

Dydd Sadwrn 1 a dydd Sadwrn 8 Hydref – gwasanaeth rheilffordd cyfyngedig iawn, peidiwch â theithio ar y trên

Yr unig wasanaethau fydd yn gweithredu fydd ar Linellau Craidd y Cymoedd yn Ne Cymru a'r  gwasanaeth gwennol rhwng Caerdydd a Chasnewydd, gydag un trên yn gweithredu bob awr i bob cyfeiriad, rhwng 07:30 a 18:30.

Ni fydd unrhyw wasanaethau TrC eraill ledled Cymru a’r Gororau yn gallu gweithredu.

Bydd gwasanaethau trên yn gweithredu rhwng Caerdydd Canolog a Rhymni, Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful yn gwasanaethu bob awr i bob cyfeiriad rhwng 07:30 a 18:30.

Atgoffir cwsmeriaid y bydd capasiti trafnidiaeth ffordd yn gyfyngedig iawn rhwng Radur a Chaerdydd cyn 07:30 ac ar ôl 18:30, pan na fydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu rhedeg trenau trwy Llandaf a Cathays.

Bydd amserlenni diwygiedig ar gyfer dydd Sadwrn 1 Hydref mewn cynllunwyr taith ar-lein o ddydd Mawrth 27 Medi.

Dydd Gwener 30 Medi a dydd Gwener 7 Hydref (y dyddiau cyn y streiciau)

Mae disgwyl hefyd y bydd tarfu ar y dyddiau cyn y gweithredu diwydiannol, a bydd gwasanaethau yn llawer prysurach nag arfer.

Cynghorir cwsmeriaid i deithio dim ond os oes gwir angen ar ddydd Gwener 30 Medi a 7 Hydref, ac i wirio cynllunwyr teithio ar-lein am unrhyw newidiadau byr rybudd i wasanaethau hwyr y nos o ganlyniad i streic y diwrnod canlynol.

Llinellau Craidd y Cymoedd - Dydd Sadwrn 1 Hydref a Dydd Sadwrn 8 Hydref

Bydd gwasanaethau cyntaf y dydd sy'n gadael Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful i gyd yn cael eu hamseru felly byddant yn cyrraedd Radur ar ôl 07:00.   Ni fydd unrhyw drenau yn rhedeg cyn 07:00 ar unrhyw lein ac eithrio rhwng Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful – Radur.

Ni fydd unrhyw wasanaethau trafnidiaeth ffordd a gynlluniwyd ymlaen llaw ar waith cyn 18:30 ar Linellau Craidd y Cymoedd.

Mae gwasanaethau’n debygol o fod yn llawer prysurach nag arfer – yn enwedig gwasanaethau cynta'r dydd.

Holl wasanaethau eraill TrC – dydd Sul 2 a 9 Hydref

Ni fydd unrhyw drenau yn rhedeg cyn 07:00 ar y dyddiau hyn, ac mae’r trenau hynny sy’n rhedeg yn debygol o fod yn llawer prysurach nag arfer – yn enwedig gwasanaethau cyntaf y dydd. Mae disgwyl hefyd y bydd tarfu ar wasanaethau oherwydd bod trenau'n cael eu dadleoli o ganlyniad i’r streic y diwrnod cynt.

Yn benodol, disgwylir i wasanaethau i Gaerdydd fod yn brysurach nag arfer ar fore 2 Hydref oherwydd   Hanner Marathon Caerdydd  .

Anogir cwsmeriaid i wirio gwefan, ap neu gyfryngau cymdeithasol TrC cyn teithio, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau cyntaf y dydd o’u gorsaf wreiddiol.

Mae disgwyl y bydd y gwasanaethau ar y diwrnodau hyn yn hynod o brysur ac anogir cwsmeriaid i deithio ar y dyddiadau eraill, sef dydd Llun 3 neu 10 Hydref.

Dydd Mercher 5 Hydref

Mae rhai o’n gwasanaethau’n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i’r amserlen sydd wedi'i chwtogi'n sylweddol a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gwasanaethau rhwng Caerfyrddin a Chasnewydd

  • Gwasanaethau rhwng Amwythig a Wolverhampton

  • Gwasanaethau rhwng Caerdydd a Cheltenham

  • Gwasanaethau rhwng Caer a Chaergybi

  • Gwasanaethau rhwng Caer a Maes Awyr Manceinion

  • Gwasanaethau rhwng Crewe a Manceinion Piccadilly

Oherwydd bod gorsaf Birmingham New Street wedi cau, bydd gwasanaethau rhwng Gogledd Cymru a Birmingham International yn dod i ben yn Wolverhampton.

Cynghorir cwsmeriaid i deithio dim ond os oes angen ac anogir cwsmeriaid i deithio ar y dyddiadau eraill, sef dydd Mawrth 4 neu ddydd Iau 6 Hydref.

Bydd amserlenni diwygiedig ar gyfer dydd Mercher 5 Hydref mewn cynllunwyr teithio ar-lein o ddydd Iau 29 Medi.

Tocynnau cyfredol

Mae gan ddeiliaid tocynnau advance yr hawl i newid eu taith gan ddefnyddio'r polisi 'Archebu Gyda Hyder/Booking with Confidence ' a caiff y ffioedd newid siwrnai eu hepgor os gwneir cais cyn 18:00 y diwrnod cyn teithio.  Gallwch ddal newid eich tocynnau ar ôl yr amser hwn, a hyd at amser ymadael, ond byddwch yn gorfod talu ffi o £10 i newid taith.  Mae hyn yn berthnasol i bob tocyn a newidir.

Caniateir i gwsmeriaid sydd â thocynnau Unrhyw Amser, Allfrig neu Advance, hefyd tocynnau Ranger/Rover, ar gyfer un o’r cwmnïau trên (TOC) sydd ar streic – dyddiedig 1, 5 neu 8 Hydref - deithio naill ai ar y diwrnod cyn y dyddiad ar y tocyn neu hyd at 11 Hydref 2022.

Os oes gennych docyn dwyffordd ac nad oes modd i chi wneud rhan gyntaf o'ch taith oherwydd y streic, caniateir ad-daliad ar eich tocyn hyd yn oed os nad yw streic yn effeithio ar ail ran eich taith.  Mae'r un peth yn wir os yw streic yn effeithio ar y daith ddychwelyd ond nid ar y rhan gyntaf o'r daith.

Fel arall, gall cwsmeriaid hawlio ad-daliad llawnad-daliadau, heb unrhyw ffi weinyddol. Gall deiliaid tocyn tymor wneud cais am iawndal drwy system  Ad-daliad am Oedi .

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon