Newyddion

Teithwyr, grwpiau trafnidiaeth, y llywodraeth a chyrff anllywodraethol yn cefnogi Mis Dal y Bws

Teithwyr, grwpiau trafnidiaeth, y llywodraeth a chyrff anllywodraethol yn cefnogi Mis Dal y Bws

11 Hydref 2022

Mae’r Mis Dal y Bws cyntaf i’w gynnal gan Bus Users wedi dod i ben, pan ddaeth grwpiau ledled y DU o hyd i ffyrdd cyffrous a chreadigol o annog pobl i ddefnyddio bysiau.

Dechreuodd y digwyddiadau â lansiad swyddogol yn Nhŷ’r Arglwyddi yn Llundain, ac yn fuan wedyn gwelwyd llu o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein, ymgyrchoedd a digwyddiadau hyrwyddo’n cael eu cynnal.

Lluniau o Fis Dal y Bws

Buodd grwpiau lleol sy’n hyrwyddo teithio ar fysiau’n cynnal digwyddiadau galw heibio, yn gofyn am gefnogaeth ar gyfer deisebau yn erbyn toriadau i wasanaethau bws lleol, yn dosbarthu gwybodaeth ac amserlenni, ac yn annog pobl yn gyffredinol i ddefnyddio bysiau.

Buodd rhai sefydliadau’n annog eu staff i gefnu ar eu ceir a theithio ar fysiau, a buodd gweithredwyr yn cynnal cystadlaethau ac yn cynnig gwobrau megis prydau bwyd mewn bwytai lleol, tocynnau ar gyfer sioeau a thocynnau teithio rhad ac am ddim. Buodd un gweithredwr hyd yn oed yn rhoi cacennau am ddim i deithwyr, tra buodd un arall yn cynnig paned o goffi am ddim a sgwrs i bobl a oedd yn digwydd pasio. Buodd awdurdodau lleol a chynghorau’n hyrwyddo manteision cardiau teithio rhatach ar gyfer bysiau, gyda rhai’n codi unrhyw gyfyngiadau sy’n berthnasol iddynt, ac achubodd darparwyr trafnidiaeth ar y cyfle i lansio fflyd newydd o gerbydau trydan, apiau, dyfeisiau tapio wrth gyrraedd a gadael bysiau, a mentrau eraill i hwyluso ein teithiau.

Cafodd Mis Dal y Bws ei gefnogi’n helaeth gan gyrff megis y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, yr Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well, yr Adran Drafnidiaeth, Awdurdodau Cyfun a Gweithrediaethau Trafnidiaeth Teithwyr, a chafwyd negeseuon trydar gan weinidogion llywodraeth a chynghorwyr lleol yn cefnogi’r ymgyrch. At hynny, yn ystod Mis Dal y Bws, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan gap ar brisiau tocynnau am 3 mis ar deithiau ar draws Lloegr a chafodd Diwrnod Dim Ceir y Byd ei ddathlu ar 22 Medi.

Dywedodd Claire Walters, Prif Weithredwr Bus Users, fod yr ymgyrch wedi rhagori ar ei holl ddisgwyliadau: “Mae defnyddwyr bysiau’n wynebu heriau digynsail ar hyn o bryd, felly roedd yn wych gweld yr holl gefnogaeth anhygoel i’r gwasanaethau hanfodol hyn. Fel yr ydym wedi sôn drwy gydol yr ymgyrch, mae bysiau’n cyfrannu i’r economi, i’r amgylchedd ac i’n hiechyd a’n lles, felly mae toriadau i wasanaethau’n effeithio arnom i gyd.

“Mae Mis Dal y Bws yn ffordd ardderchog o dynnu sylw at fanteision bysiau a chael mwy o bobl i ddefnyddio bysiau, ac rydym yn edrych ymlaen yn barod at Fis Dal y Bws 2023 a fydd yn fwy fyth ac yn well fyth.”

Ffynhonnell y wybodaeth: Bus Users

 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon