Newyddion

Gwasanaethau 303 a 304 Adventure Travel yn newid yn dilyn adborth gan gwsmeriaid

Gwasanaethau 303 a 304 Adventure Travel yn newid yn dilyn adborth gan gwsmeriaid

13 Hydref 2022

Mae Adventure Travel wedi ymateb i adborth gan gwsmeriaid ac wedi addasu ei wasanaethau bws 303 a 304 er mwyn darparu cysylltiadau gwell rhwng y ddau lwybr a chynnwys Gorsaf Caerdydd Canolog.

O 31 Hydref ymlaen, bydd llwybr gwasanaeth 304 o gyfeiriad canol y ddinas yn newid ar ôl gadael Heol y Tollty, er mwyn gwasanaethu Gorsaf Caerdydd Canolog wrth deithio allan o Gaerdydd. Ni fydd yr amserlen yn newid. Ar yr un diwrnod, bydd amserlen gwasanaeth 303 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn cael ei haddasu fel bod y bysiau’n cysylltu â gwasanaeth 304 yng Nghyfnewidfa Llanilltud Fawr ac yn galluogi teithwyr i barhau â’u taith.

Meddai Adam Keen, Rheolwr Gyfarwyddwr Adventure Travel: “Yn unol â’n huchelgais i wrando ar ein cwsmeriaid a gweithredu ar sail yr hyn y maent yn ei ddweud, mae’n bleser gennym gadarnhau’r newidiadau hyn sy’n darparu cysylltiadau gwell o lawer rhwng llwybrau 303 a 304 ac yn ei gwneud yn bosibl i deithwyr barhau â’u taith i fannau eraill.

“Mae newid y llwybr allan o Gaerdydd fel ei fod yn cynnwys Gorsaf Caerdydd Canolog yn golygu bod cysylltiadau gwell o lawer erbyn hyn â gwasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru yn ogystal â gwasanaethau rheilffyrdd pellter hwy a ddarperir gan First Great Western a Cross Country. Bydd teithwyr yn gallu ymuno â’n gwasanaeth 304 o wasanaethau rheilffyrdd sy’n cyrraedd, er mwyn teithio ymlaen i Faes Awyr Caerdydd, y Barri, Llanilltud Fawr a lleoedd eraill.

Mae llwybrau 303 a 304 yn cynnig ystod o docynnau diwrnod a thocynnau wythnos, yn ogystal â ‘bwndeli’ o 10 tocyn a fydd ar gael o 31 Hydref ymlaen er mwyn gwneud teithio ar fws yn fwy hyblyg i’r sawl nad ydynt yn teithio sawl diwrnod yn olynol yn awr. I gael gwybodaeth lawn am amserlenni a phrisiau tocynnau ar bob llwybr a weithredir gan Adventure Travel, cliciwch ar rifau’r gwasanaethau yma: 303 a 304

Ffynhonnell y wybodaeth: Adventure Travel

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon