Newyddion

Wythnos Hinsawdd Cymru 2022

Wythnos Hinsawdd Cymru 2022

31 Hydref 2022

Digwyddiad blynyddol yw Wythnos Hinsawdd Cymru sy’n dod ag unigolion, cymunedau, grwpiau amgylcheddol, academyddion, busnesau a’r sector cyhoeddus ynghyd i drafod y newid yn yr hinsawdd.

Bydd yr Wythnos eleni’n cael ei chynnal yn union ar ôl COP27 (uwchgynhadledd ryngwladol nesaf ‘Cynhadledd y Partïon’ ar newid hinsawdd, yn yr Aifft rhwng 7 a 18 Tachwedd). 

Bydd yr wythnos yn dechrau gyda rhith-gynhadledd 2-3 diwrnod, lle bydd cyrff Tîm Cymru a Negeseuwyr Dibynadwy yn trafod rôl y cyhoedd (unigolion) o ran gweithredu ar newid hinsawdd. Bydd y rhith-gynhadledd yn edrych hefyd ar heriau taclo’r bygythiadau a ddaw yn sgil hinsawdd sy’n newid law yn llaw â’r argyfwng costau byw. Byddwn yn ystyried beth yw’r atebion i’r her dwbl hwn i aelwydydd ledled Cymru. 

Cynhelir rhaglen ymylol newydd o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos er mwyn ennyn grwpiau newydd i drafod y newid yn yr hinsawdd. Bydd y digwyddiadau hyn yn rhan o gam olaf yr ymgynghoriad agored ar ddrafft newydd o ‘Strategaeth ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Gweithredu ar Newid Hinsawdd’ a gyhoeddir yn yr wythnosau nesaf.  Bydd y Strategaeth yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid Tîm Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ennyn diddordeb a chefnogi pobl Cymru i weithredu ar newid hinsawdd.  Bydd arian ar gael ar gyfer partneriaid sydd â chysylltiadau cryf â’r grwpiau hyn, i’w helpu i drefnu digwyddiadau a gweithdai lleol. 

Os hoffech gymryd rhan yn y rhith-gynhadledd neu gynnal digwyddiad neu weithdy ymylol, yna e-bostiwch decarbonisationmailbox@gov.wales. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Wythnos Hinsawdd Cymru ac am ddeddfwriaeth a pholisïau Llywodraeth Cymru ar ei hymrwymiad i’r newid yn yr hinsawdd, cofrestrwch ar gyfer y Bwletin Newid Hinsawdd.

Ffynhonnell y wybodaeth: Llywodraeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon