Newyddion

Cau llinellau rhwng Pontypridd a Threherbert ym mis Tachwedd

Cau llinellau rhwng Pontypridd a Threherbert ym mis Tachwedd

04 Tachwedd 2022

Ni fydd gwasanaethau rheilffordd ar gael rhwng Pontypridd a Threherbert ar ddau achlysur gwahanol ym mis Tachwedd wrth i Trafnidiaeth Cymru barhau i uwchraddio Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL) ar gyfer Metro De Cymru. 

Bydd y cau cyntaf yn digwydd rhwng dydd Sul 6 Tachwedd a dydd Sadwrn, 12 Tachwedd a bydd y cau am yr ail wythnos yr wythnos ganlynol rhwng ddydd Sadwrn 19 Tachwedd i ddydd Gwener 25 Tachwedd.

Bydd y gwaith yn cynnwys gosod sylfeini ar gyfer cyfarpar llinellau uwchben a gosod arwyddion ar hyd y llwybr, gwaith gorsaf, gostwng traciau a gwaith draenio. 

Yn ystod y cyfnod cau, bydd gwasanaethau yn lle trên ar waith ac mae Trafnidiaeth Cymru yn annog teithwyr i wirio'r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.

Bydd Metro De Cymru yn gwella cysylltedd yn sylweddol ledled De Cymru ac yn darparu mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru, drwy uno llwybrau rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol.  Ariennir y prosiect yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon