Newyddion

Stagecoach yn ymestyn teithiau am ddim ledled y DU i gyn-filwyr ac aelodau’r fyddin, gan gynnwys cadetiaid, ar Ddydd y Cadoediad a Sul y Cofio

Stagecoach yn ymestyn teithiau am ddim ledled y DU i gyn-filwyr ac aelodau’r fyddin, gan gynnwys cadetiaid, ar Ddydd y Cadoediad a Sul y Cofio

08 Tachwedd 2022

  • Bydd teithiau am ddim ar gael unwaith eto i aelodau a chyn-aelodau’r fyddin ar 11 Tachwedd ac 13 Tachwedd 
  • Mae’r gweithredwr yn awr wedi ymestyn y cynnig i gynnwys cadetiaid sy’n gwisgo gwisg filwrol
  • Mae’r cynnig ar gael ar bob un o wasanaethau bws a thram Stagecoach ar draws y DU  
  • Mae’r gweithredwr yn aelod balch o Gyfamod y Lluoedd Arfog

Mae Stagecoach wedi cadarnhau ei ymrwymiad parhaus i’r lluoedd arfog drwy ymestyn ei bolisi newydd o deithiau am ddim ar gyfer cyn-filwyr ac aelodau’r fyddin fel ei fod yn cynnwys cadetiaid sy’n dymuno mynychu gwasanaethau coffáu. Bydd teithiau am ddim ar gael ar wasanaethau bws a thram y cwmni ar draws y DU ar Ddydd y Cadoediad a Sul y Cofio. 

Mae’r ymrwymiad i gynnig teithiau am ddim, sydd yn ei ail flwyddyn yn awr, yn dilyn lansio Rhwydwaith Cyn-filwyr Stagecoach a arweinir gan y gweithwyr. Cafodd y rhwydwaith ei lansio y llynedd er mwyn galluogi cydweithwyr yn Stagecoach i ddod ynghyd fel un llais i achosi newid, codi ymwybyddiaeth, helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau busnes, a chyflwyno ffyrdd newydd o weithio er mwyn gwneud y cwmni’n gryfach fyth.  

Mae Stagecoach wedi bod yn cefnogi Apêl y Pabi ers amser maith gan ei fod yn achos sy’n agos iawn at galonnau gweithwyr a chwsmeriaid y cwmni, ac yn ogystal â chynnig teithiau am ddim ar 11 Tachwedd ac 13 Tachwedd bydd Stagecoach yn gweithredu nifer o Fysiau’r Pabi ar draws ei rwydwaith. Bydd pabïau hefyd yn cael eu dangos ar du blaen bysiau ar draws y DU, a bydd rhai bleinds sy’n dangos i ble y mae bysiau’n teithio yn dangos y neges “We will remember them”. 

Bydd gweithwyr ar draws Stagecoach yn parchu’r ddwy funud o dawelwch hefyd, ac mae’n bosibl y bydd gyrwyr yn stopio eu bysiau er mwyn parchu’r cyfnod o dawelwch, os yw’n ddiogel iddynt wneud hynny.  

Yn ogystal, mae Stagecoach wedi bod yn aelod o Gyfamod y Lluoedd Arfog ers mis Mawrth 2015, gan gydnabod mor werthfawr yw milwyr rheolaidd a milwyr wrth gefn sy’n gwasanaethu yn y fyddin, cyn-filwyr a theuluoedd milwyr i’r wlad ac i fusnesau ar draws y DU. 

Mae gwasanaethau coffáu wedi’u trefnu wrth ymyl cofebau ar draws y DU, a’r gobaith yw y bydd pobl sydd am dalu teyrnged yn manteisio ar y cynnig hwn i deithio am ddim i’r gwasanaeth y maent wedi dewis ei fynychu. 

Mae’r ymrwymiad hwn gan Stagecoach yn galluogi’r busnes i uno a chynnig teithiau am ddim i bob cwsmer sy’n aelodau o’r fyddin, sy’n gyn-filwyr neu sy’n gadetiaid, a bydd yn parhau bob blwyddyn ar Ddydd y Cadoediad a Sul y Cofio yn ogystal ag ar Benwythnos y Lluoedd Arfog. 

Mae Simon Tramalloni, Rheolwr Gweithrediadau yn Preston a Chorley, yn gyd-arweinydd Rhwydwaith Cyn-filwyr Stagecoach. Roedd yn arfer gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a threuliodd gyfnodau yng Ngogledd Iwerddon, Bosnia, Kosovo, Affrica a’r Dwyrain Canol. Meddai: “Wedi i’r syniad gael ei gynnig y llynedd, rwy’n falch dros ben ein bod yn awr yn gallu cynnig hyn i gadetiaid milwrol a dathlu ail flwyddyn o deithiau am ddim i aelodau’r fyddin ac i gyn-filwyr.  

“Mae Stagecoach wedi ymrwymo i gefnogi’r lluoedd arfog a’n cyn-filwyr, ac mae gennym filoedd o gyn-aelodau’r lluoedd arfog yn gweithio ar draws ein busnes. Mae’r Rhwydwaith Cyn-filwyr yn ein galluogi i adeiladu ar y gwaith y mae Stagecoach wedi’i arwain dros flynyddoedd lawer er mwyn gweld ym mha ffyrdd eraill y gallwn gefnogi’r cyn-filwyr sy’n gweithio i ni’n barod a chyn-filwyr a allai fod am ymuno â’r cwmni. 

“Mae Dydd y Cofio ac Apêl y Pabi yn achosion sy’n agos iawn at galonnau llawer o’n gweithwyr a’n cwsmeriaid, ac rydym yn falch iawn o wneud yr ymrwymiad hwn a fydd, gobeithio, yn helpu pobl i fynychu digwyddiadau coffáu ar draws y DU.” 

Ffynhonnell y wybodaeth: Stagecoach

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon