Newyddion

Cyflwyno gwasanaeth bws gwennol dros dro i gefnogi teithwyr

Cyflwyno gwasanaeth bws gwennol dros dro i gefnogi teithwyr

20 Tachwedd 2022

Bydd gwasanaeth bws gwennol yn cael ei lansio ddydd Llun (21 Tachwedd) er mwyn helpu teithwyr yn Ne Ynys Môn.

Cafodd y gwasanaeth bws i ac o Penmon, Caim a Glanrafon ei atal yn gynharach eleni ar ôl cyflwyno cyfyngiadau pwysau ar Bont Borth.

Mae’r cyngor sir bellach wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn gallu darparu gwasanaeth bws wennol newydd a fydd yn gwasanaethu trigolion yn yr ardaloedd hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu'r gwasanaeth hwn tan y Nadolig.

Gan groesawu’r newyddion, dywedodd aelodau ward lleol Seiriol, y Cynghorydd Carwyn Jones, Cynghorydd Alun Roberts a’r Cynghorydd Gary Pritchard:

"Rydym wedi bod yn ymgysylltu ag aelodau o’r gymuned sydd wedi eu heffeithio arnynt ac wedi bod yn pwyso am ddatrysiad. Rydym yn croesawu’r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn gallu darparu’r gwasanaeth bws gwennol.”

Ychwanegodd Deilydd Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, “Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru, ein Swyddogion Priffyrdd yng Nghyngor Môn a Gwynfor Coaches am eu cefnogaeth a’u gwaith i helpu hwyluso’r trefniant a’r gwasanaeth newydd hwn.”

“Heb os, bydd hyn yn helpu’r gymuned leol a theithwyr er mwyn iddynt allu cael mynediad i wasanaethau bws allweddol.”

Ar 21 Hydref, cafodd Pont Borth ei chau i’r holl draffig ar unwaith. Gwnaed y penderfyniad hwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd ar ôl i risgiau difrifol gael eu hadnabod ac i beirianwyr strwythurol argymell cau’r bont.

Mae trigolion a theithwyr sy’n teithio dros Pont Britannia hefyd yn cael eu hannog i ystyried rhannu ceir ac i ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a rhannu sydd wedi eu lleoli yn Gaerwen (LL60 6AR) a Llanfairpwll (LL61 5YR).

Eglurodd Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, Huw Percy, “Rydym yn deall rhwystredigaeth modurwyr o ystyried y sefyllfa bresennol gyda Phont Borth.”

“Fodd bynnag, rydym yn gweithio’n galed ac yn agos iawn â Llywodraeth Cymru er mwyn lliniaru’r effeithiau ar ein trigolion, ymwelwyr a’r rhwydwaith ffyrdd lleol.”

Mae’r cyngor hefyd yn mesur yr effaith mae cau’r bont wedi’i gael ar fusnesau yn y dref drwy gynnal arolwg ar-lein – mae mwy o wybodaeth i’w gweld yma: https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/newyddion/newyddion/arolwg-porthaethwy-i-fesur-effaith-ar-ganol-y-dref

Gweler y cwestiynau cyffredin am Bont Borth yma: https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Trigolion/Parcio-lonydd-a-theithio/Teithio/Pont-y-Borth-cwestiynau-cyffredin.aspx

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon