Newyddion

Cyngor teithio ar gyfer Cymru v Awstralia ar 26 Tachwedd yng Nghaerdydd

Cyngor teithio ar gyfer Cymru v Awstralia ar 26 Tachwedd yng Nghaerdydd

23 Tachwedd 2022

Bydd Cymru'n herio Awstralia ar ddydd Sadwrn 26 Tachwedd yn Stadiwm Principality.

Gyda'r gic gyntaf am 3.15pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 11.15am tan 7.15pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.

Mae teithwyr trên yn cael eu hannog i gynllunio eu teithiau'n ofalus gan fod gweithredu diwydiannol yn mynd i effeithio ar wasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.

Bydd y gatiau'n agor am 12.45pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar.  Rhowch sylw i'r eitemau gwaharddedig a restrir yn principalitystadium.cymru,yn arbennig y polisi bagiau (ni chaniateir bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 11.15am tan 7.15pm

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Heol Clare i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhamon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau'n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa'r Orsaf a Stryd Guildford o'r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Bydd hyn er mwyn sicrhau bod mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
  • Yn ogystal, bydd Heol Penarth o gefn yr orsaf drenau drwy gydol ei hyd at Heol Eglwys Fair ar gau er mwyn sicrhau y gall teithwyr trên gyrraedd a gadael o'r orsaf drên yn ddiogel.

Ychwanegiadau:  
Canolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.

Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Trenau

Mae teithwyr trên yn cael eu hannog i gynllunio eu teithiau'n ofalus gan fod gweithredu diwydiannol yn mynd i effeithio ar wasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau. 

Nid yw Trafnidiaeth Cymru (TC) yn rhan o streiciau dydd Sadwrn, ond mae gweithredu diwydiannol gan undeb gyrwyr trenau ASLEF mewn 12 gweithredydd arall yn golygu y bydd gwasanaethau TC ar draws y rhwydwaith yn debygol o fod yn brysur iawn.

Dydd Sadwrn 26 Tachwedd

mae disgwyl i wasanaethau TC yn Ne Cymru rhwngCaerfyrddin a Chasnewyddfod yn brysur iawn oherwydd nad oes gwasanaethau Great Western Railway (GWR) yn rhedeg i mewn / allan o Gymru ar ddydd Sadwrn 26 Tachwedd.

Cynghorir pob cwsmer yn gryf i chwilio am y wybodaeth deithio ddiweddaraf ar wefan, ap symudol neu sianeli cyfryngau cymdeithasol TC cyn teithio.

Mae TC yn darparu gwasanaethau bws rhwng Abertawe - Caerdydd a Chasnewydd - Caerdydd i ddarparu capasiti ychwanegol ar gyfer y rygbi. I archebu tocynnau i deithio ar fws ewch ihttps://tfw.wales/places/events/wales-v-australia
 
Teithiau Bws Dwyffordd Big Green Coach

Os nad ydych yn teithio gyda Trafnidiaeth Cymru, bydd gwasanaeth bws arall ar gael. Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymuno â Big Green Coach, y cwmni teithio digwyddiadau mwyaf yn y DU, i gynnal gwasanaethau bws arbennig i gefnogwyr sy'n teithio i Gaerdydd ar gyfer y gêm rhwng Cymru ac Awstralia.

Mae teithiau bws dwyffordd ar gael o bedwar lleoliad gan gynnwys Bryste, Swindon, Reading a Llundain (King's Cross).  Mae seddi dwyffordd yn dechrau o £33, a bydd pob bws yn cyrraedd digon o amser cyn y gêm ac yn mynd â’r cefnogwyr adref ar ôl i’r gêm ddod i ben.

Gellir prynu tocynnau ar-lein trwy: https://www.biggreencoach.co.uk/events/wales-v-australia-coach-travel-to-principality-stadium-cardiff   

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd cyfleusterau Parcio a Theithio ar gyfer y digwyddiad yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd. 

Bydd y pwynt gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan.

Bydd y safle Parcio a Theithio yn agor am8.50am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas  am 7pm gyda'r safle yn cau'n fuan wedi hynny.

Cost: £10 yn daladwy ar y diwrnod - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Ceir a Bysus)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysiau lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/ 

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia yn yr un modd ag arfer pan fydd y ffyrdd ar agor.  Pan fydd y ffyrdd ar gau, bydd gwasanaethau National Express yn gweithredu o Heol y Gadeirlan

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 11.15am ac yn ailagor am 7.15pm.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Gyngor Caerdydd

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon