Newyddion

Cwsmeriaid yn cael eu hannog i deithio ar y trên dim ond os oes angen Noswyl Nadolig

Cwsmeriaid yn cael eu hannog i deithio ar y trên dim ond os oes angen Noswyl Nadolig

20 Rhagfyr 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn atgoffa cwsmeriaid i gynllunio eu teithiau Noswyl Nadolig yn ofalus a dim ond teithio ar y trên os oes gwir angen gan y bydd gweithredu diwydiannol yn golygu y bydd gwasanaethau rheilffordd yn dod i ben yn gynnar.

Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y bydd gweithredu diwdiannol ar 24-27 Rhagfyr fydd yn amharu’n sylweddol ar y rhwydwaith rheilffyrdd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.

Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn ymwneud â’r gweithredu diwydiannol.  Fodd bynnag, mae’r gweithredu diwydiannol sy’n deillio o’r anghydfod rhwng yr undebau a Network Rail yn golygu na all Trafnidiaeth Cymru weithredu gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail.  Effeithir ar wasanaethau gweithredwyr eraill hefyd gan y gweithredu diwydiannol.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynghori cwsmeriaid i wneud teithiau hanfodol yn unig ar Noswyl Nadolig, ac i anelu at ddod a'u taith i ben erbyn hanner dydd gan y bydd gwasanaethau’n dirwyn i ben yn y prynhawn cyn dechrau gweithredu diwydiannol fin nos.

Ni fydd gwasanaethau TrC yn gweithredu Ddydd Nadolig na Gŵyl San Steffan, gan ailddechrau ar 27 Rhagfyr – bydd gwasanaethau ar rai llwybrau’n dechrau yn hwyrach nag arfer y diwrnod hwnnw oherwydd y streic.  Ni fydd gwasanaethau Llinellau Craidd y Cymoedd yn rhedeg ar Ddydd Calan chwaith.

 
Ffynhonnell y wybodaeth: TrC
Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon