Newyddion

Gwaith i ddatrys problemau diogelwch yn dechrau ar Bont Menai

Gwaith i ddatrys problemau diogelwch yn dechrau ar Bont Menai

05 Ionawr 2023

Bu Llywodraeth Cymru ac UK Highways A55 Ltd, ar y cyd â chwmnïau peirianneg Spencer Group a COWI, yn cydweithio i gyd-ddatblygu'r rhaglen frys. Roedd angen strategaeth ddylunio a chaffael bwrpasol ar gyfer y gwaith brys, a gafodd ei ddatblygu’n gyflym ar ôl i Bont Menai gael ei chau’n annisgwyl ar 21 Hydref 2022 oherwydd problem strwythurol a oedd yn peri risg i ddiogelwch y cyhoedd.

Bydd y rhaglen yn dechrau gyda'r gwaith brys ar ochr orllewinol y bont cyn i'r gwaith ar yr ochr ddwyreiniol gael ei gwblhau. Wrth i’r rhaglen gwaith brys gael ei datblygu, cafodd gwaith cynnal a chadw ychwanegol, gan gynnwys rhoi wyneb newydd ar y ffordd, ei wneud yn gynt na’r bwriad fel y bo llai o darfu ar breswylwyr a busnesau Ynys Môn a’r Gogledd yn y dyfodol. 

Wrth i’r gwaith brys ar y rhodenni, sy'n cael ei wneud y mis hwn, fynd rhagddo, mae pecyn cymorth Llywodraeth Cymru, a luniwyd ar y cyd ag UK Highways A55 Ltd, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn i liniaru'r effeithiau ar fusnesau lleol, yn dal ar gael. Bydd lleoedd parcio am ddim ar gael mewn meysydd parcio yn nhref Porthaethwy ac ar y ddau safle parcio a rhannu gydol mis Ionawr. Er mwyn cynnig cymorth oherwydd nad yw’r gwasanaethau bysiau arferol ar gael ar yr ynys ar ôl i'r bont gau, mae'r cyngor wedi darparu arosfannau ychwanegol (traveline.cymru) yn nes at Bont Menai.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth:

"Dw i'n falch ein bod ni, ar y cyd â'n partneriaid, wedi gallu bwrw ymlaen yn gyflym gyda'r gwaith hynod bwysig a chymhleth hwn ar Bont Menai. Yn y cyfamser, mae'r pecyn cymorth i leddfu'r pwysau trafnidiaeth ar bobl sy'n teithio’n ôl ac ymlaen i Ynys Mon yn parhau yn ei le a dw i'n ddiolchgar i drigolion yr ardal am eu hamynedd wrth i'r gwaith ar y bont barhau."

Dywedodd llefarydd ar ran UK Highways A55 Ltd:

"Rydyn ni’n cydnabod bod cau Pont Menai wedi tarfu ar y gymuned leol ac wedi gwneud amgylchiadau’n anodd. Rydyn ni’n gwerthfawrogi amynedd pawb wrth inni fynd ati i ddatblygu ateb brys er mwyn datrys y broblem ddigynsail hon. Rydyn ni am ddiolch i bawb am eu gwaith caled wrth ddod o hyd i’r ateb hwn mor gyflym, yn enwedig i drigolion Ynys Môn a’r Gogledd am eu cadernid.

Daeth nifer o heriau peirianegol cymhleth i’n rhan wrth inni fynd ati i geisio dod o hyd i ateb i'r broblem unigryw hon. Fe wnaethom weithio'n hynod o agos gyda HIghways UK, Llywodraeth Cymru, a thîm ehangach peirianwyr y prosiect er mwyn deall y problemau a'r cyfyngiadau’n llawn, ac er mwyn inni fedru datblygu ateb sy'n ddiogel ac yn gadarn i ddefnyddwyr y bont, ac i'r strwythur ei hun, gan wneud hynny cyn gynted â phosibl."

 

Gweler y cwestiynau cyffredin am Bont Borth yma: https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Trigolion/Parcio-lonydd-a-theithio/Teithio/Pont-y-Borth-cwestiynau-cyffredin.aspx

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Llywodraeth Cymru

 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon