Newyddion

Bws â chelf stryd i anrhydeddu ein dinas

Bws â chelf stryd i anrhydeddu ein dinas

20 Ionawr 2023

Mae Tee2Sugars, yr artist celf stryd enwog o Gymru, wedi paentio un o fysiau Newport Bus er mwyn anrhydeddu ffigwr a chyfnod yn hanes Casnewydd sy’n cynrychioli cynnydd, sef Arglwyddes Rhondda a mudiad y Siartwyr. Cafodd y bws ei lansio ddiwedd mis Rhagfyr, a bydd modd ei weld o amgylch y ddinas yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

Cafodd Tee2Sugars, yr artist celf o Gymru, ei wahodd gan Newport Transport i baentio â chwistrell un o fysiau deulawr Newport Transport er mwyn dathlu celf a hanes lleol.

Dyma a ddywedodd Scott Pearson, Rheolwr Gyfarwyddwr Newport Transport:

“Mae Newport Bus yn rhan annatod o’r gymuned yng Nghasnewydd, ac roeddem am hyrwyddo’r hyn sy’n dda am gymuned y ddinas. “Ein Bws Ni” yw’r bws, sy’n golygu ei fod yn wasanaeth bws i bawb.”

Meddai Tee2Sugars:

“Diben y prosiect hwn oedd clodfori pobl Casnewydd. Yr hyn sy’n gwneud Casnewydd yn wahanol i bob dinas arall yn y DU yw angerdd y bobl sy’n byw yma, nad oes ei debyg yn unman arall. Mae gweithio gyda Newport Bus i greu’r darn hwn o gelf wedi bod yn brofiad gwych.”

Gallwch weld fideo o’r gwaith paentio’n digwydd gan Tee ar YouTube.

“Roedd yn braf cyfuno Arglwyddes Rhondda a mudiad y Siartwyr mewn un darn o gelf … ar fws! Rwy’n dwlu ar y ffaith nad yw’r darn hwn o waith celf ar wal yn rhywle, a’i fod yn symud o amgylch y ddinas er mwyn i bawb allu ei weld, sy’n golygu bod y gwaith celf yn cael ei roi yn ôl i’r bobl! Diolch, Newport Bus, am y cyfle gwych hwn!”

Mae’r gwaith sydd ar un ochr i’r bws wedi’i ysbrydoli gan Margaret Haig Thomas, a gâi ei galw’n Arglwyddes Rhondda. Roedd yn ymgyrchydd, yn fenyw fusnes ac yn swffragét a chwaraeodd ran allweddol yn yr ymgyrch i wella hawliau menywod ddechrau’r ugeinfed ganrif. Roedd yn un o sylfaenwyr a golygyddion y cylchgrawn ffeministaidd eiconig Time and Tide, ac Arglwyddes Rhondda yw’r rheswm pam y gall menywod heddiw fod yn aelodau o Dŷ’r Arglwyddi. Mae cerflun o Arglwyddes Rhondda yn un o brosiectau’r ymgyrch Monumental Welsh Women.

Mae ochr arall y bws wedi’i neilltuo i fudiad y Siartwyr, a gaiff ei bortreadu’n rymus gan ffotograff pwysig o’r orymdaith â ffaglau yn yr ŵyl fodern Newport Rising. Mudiad y Siartwyr oedd y mudiad torfol cyntaf i’w sbarduno gan y dosbarthiadau gweithiol, a’r cam cyntaf tuag at roi profiad gwleidyddol gwerthfawr i’r dosbarthiadau gweithiol o ymgyrchu, trefnu cyhoeddusrwydd a chynnal cyfarfodydd. Mae modd gweld casgliad o eitemau o bwys cenedlaethol sy’n ymwneud â mudiad y Siartwyr yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd (sydd ar gau oherwydd gwaith adnewyddu tan fis Gorffennaf 2023). 

Meddai Scott Pearson, Rheolwr Gyfarwyddwr Newport Transport, wedyn:

“Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn mynd yn fwyfwy pwysig wrth i bobl geisio mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd drwy leihau allyriadau – gwnaethom ddewis darlunio dau fudiad cryf sy’n cynrychioli’r datblygiadau a wnaed yng Nghasnewydd i’n cymdeithas.

“Mae ein gwasanaeth wedi bod yn elfen gyson o’n cymuned ers dros ganrif, sydd wedi ymrwymo erioed i wasanaethu ei gymuned. Dyna pam yr ydym mor falch o’r darn hwn o waith, ac rydym yn gobeithio y bydd pobl Casnewydd yn mwynhau ei weld yn teithio ar hyd ein strydoedd yn ystod yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod.”

 

Lady Rhondda portrait on side of double deck busNewport Rising photo of the chartist march

Front of Our Bus Newport Bus graffiti double deckRear of Our Bus double deck bus

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Newport Bus

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon