Newyddion

100 Tocyn Rheilffordd Am Ddim - Trafnidiaeth Cymru yn ymuno â Coldplay i hyrwyddo teithio cynaliadwy

100 Tocyn Rheilffordd Am Ddim - Trafnidiaeth Cymru yn ymuno â Coldplay i hyrwyddo teithio cynaliadwy

02 Mehefin 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymuno â'r band byd-enwog Coldplay i hyrwyddo teithio cynaliadwy.

Bydd Coldplay yn perfformio yn Stadiwm Principality ar Fehefin 6 a 7 yr wythnos nesaf fel rhan o'u Taith Byd ‘Music of the Spheres’ ac maent wedi partneru â TrC i annog teithiau trên cynaliadwy i Gaerdydd.

Mae TrC yn cynnig 100 o docynnau rheilffordd dychwelyd am ddim i Gaerdydd ar gyfer yr achlysur arbennig ac os hoffai cwsmeriaid gymryd rhan yn y raffl am ddim gallant gofrestru ar http://www.trc.cymru/coldplay  . 

Bydd Coldplay yn hyrwyddo'r cynnig i'w holl gefnogwyr gan eu bod yn rhannu'r un angerdd â TrC bod eisiau annog mwy o bobl i deithio'n gynaliadwy.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru:

“Yn TrC rydym yn angerddol dros drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus ac annog pobl i deithio'n fwy cynaliadwy.

“Rydym wedi buddsoddi mewn trenau newydd sbon ac maent wedi dechrau ar eu gwaith ar ein rhwydwaith.  Ar hyn o bryd, rydym yn adeiladu Metro De Cymru i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus gyflymach, glanach a mwy effeithlon.

“Mae'n wych bod band byd-enwog fel Coldplay yn rhannu'r un angerdd am drafnidiaeth gynaliadwy â ni ac rydym yn cynnig cyfle i gwsmeriaid ennill tocyn ar gyfer taith dwyffordd i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiad.”  

Ffynhonnell y wybodaeth: TrC

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon