Panel cwsmeriaid

Hoffech chi fod yn aelod o Banel Cwsmeriaid Traveline Cymru?

 

Cofrestrwch yma! 

 

Beth yw Panel Cwsmeriaid Traveline Cymru?

Cafodd Panel Cwsmeriaid Traveline Cymru ei sefydlu er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn flaenllaw ym mhob peth a wnawn, o’r modd y mae ein gwefan yn edrych ac yn teimlo i’r modd y mae ein ap yn gweithredu ac y caiff datblygiadau technolegol newydd o fewn ein gwasanaethau eu rhoi ar waith. Rydym am i bob agwedd ar y gwasanaeth a ddarperir gennym ddiwallu anghenion ein hamrywiaeth eang o gwsmeriaid yn y ffordd orau posibl.

Mae aelodau ein panel yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhanbarth yng Nghymru, ac maent yn derbyn arolygon ar-lein yn rheolaidd ac yn cymryd rhan mewn ymgyngoriadau ynghylch newidiadau posibl i wasanaethau Traveline Cymru yn ogystal â newidiadau o fewn y diwydiant trafnidiaeth gyhoeddus.

At ba ddiben yr ydym yn defnyddio’r panel?

Pan fydd yr holl adborth gan ein panel wedi’i gasglu, caiff ei ddefnyddio’n rhan o’r broses ddatblygu a gweithredu yn nhîm Traveline Cymru. Byddwn yn llunio prawf o gysyniad ac yn ei anfon allan unwaith eto at aelodau’r panel er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn diwallu eu hanghenion nhw ac anghenion ein cwsmeriaid yn y ffordd orau posibl. Pan fydd pawb yn hapus a phan fydd popeth yn gweithio gystal ag sy’n bosibl, byddwn yn cyflwyno’r newid o ran gwasanaeth i’r cyhoedd.

Yn y gorffennol, mae nifer o gysyniadau a newidiadau wedi’u cyflwyno i’r Panel Cwsmeriaid, gan gynnwys y canlynol:

  • Gwelliannau i Gynlluniwr Beicio Traveline Cymru – erbyn hyn mae’r adnodd hwn yn cynnwys gwybodaeth am fannau peryglus ar lwybrau, megis croesfannau a goleuadau traffig; uchder y tir ar hyd llwybr; rhagolygon ynghylch lefelau’r traffig; a chyfleuster cyfrifo CO2 er mwyn helpu beicwyr i gynllunio eu taith a bod yn fwy diogel ar y ffyrdd.
  • Gwella’r modd y mae ein tudalen Amserlenni yn edrych ac yn teimlo gwnaethom ddiweddaru ein tudalen Amserlenni yn ddiweddar er mwyn ei gwneud yn haws fyth i gwsmeriaid ei defnyddio, drwy wella nodwedd sgrolio’r amserlenni eu hunain, ei gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i broblemau teithio ac amserlenni ar ffurf ffeiliau PDF, a gwneud y tabiau dewis diwrnod yn fwy amlwg.
  • Rhoi gwybod i gwsmeriaid am broblemau trafnidiaeth oherwydd y pandemig Covid-19 er i ni orfod ymateb yn sydyn i’r pandemig Covid-19, roeddem hefyd am wneud yn siŵr bod newidiadau i amserlenni (oherwydd y pandemig) yn cael eu rhannu mor effeithiol ag sy’n bosibl â chwsmeriaid.

Sut y gallwch gymryd rhan?

Rydym am sicrhau mai ein Panel Cwsmeriaid ni yw’r panel mwyaf sefydlog a dibynadwy sydd i’w gael yn y diwydiant, felly rydym yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn materion ym maes trafnidiaeth gyhoeddus i ymuno ac i ddweud eu dweud.

Nid yw cofrestru’n aelod o’r Panel Cwsmeriaid yn golygu bod yn rhaid i chi ymateb i’n negeseuon i gyd (ac rydym yn addo na fyddwn yn anfon llwyth o negeseuon atoch chwaith). Gallwch ymateb i faint bynnag ohonynt a fynnwch, ond po fwyaf o’ch safbwyntiau y gallwn eu casglu, y llawnaf fydd y darlun y gallwn ei greu.

Os hoffech ymuno â’n panel, cliciwch ar y botwm isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am y panel, mae croeso i chi anfon ebost atom: feedbacktraveline@tfw.wales

 

Cofrestrwch yma!