Problemau teithio

Effaith y Gorchymyn fydd cau Heol Rhyd-yr-helyg (“Willowford Road”) dros dro, o ffin ddeheuol Willowford House, tua'r de-ddwyrain am bellter o 125 o fetrau.

Mae angen cau'r rhan yma o'r ffordd fel bod modd cynnal gwaith arni neu yn ei hymyl.

Bydd y ffordd ar gau o 22 Hydref 2018 tan 19 Tachwedd 2018 rhwng yr amseroedd canlynol yn ôl yr angen nes bod y gwaith wedi'i gwblhau: -

Cau yn ystod y dydd - 9.30am tan 4.00pm a / neu 

Cau dros nos - 7.00pm tan 7.00am 

Bydd y ffordd ar gau am benwythnos cyfan hefyd o 7.00pm Ddydd Gwener 26 Hydref tan 7.00am Ddydd Llun 29 Hydref 2018. 

Llwybr Amgen - O ochr ddeheuol y ffordd sy'n cael ei chau, ewch ar hyd Heol Rhyd-yr-helyg, y ffordd ddienw sy'n arwain i Fferm y Gedrys, y ffordd ddienw sy'n arwain i Fferm Maes-mawr, Pound Farm Lane, cylchfan Ton-teg, Heol Ton-teg, Heol Gwaelod-y-garth, a Heol Rhyd-yrhelyg, i gyrraedd ochr ogleddol y ffordd sy'n cael ei chau.

Ar gyfer cerbydau sy'n teithio i'r cyfeiriad arall, dilynwch y cyfeiriadau uchod yn y drefn wrthdro.

Bydd mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys yn parhau.

Bydd mynediad i gerddwyr yn parhau yn ystod y dydd OND NID ar benwythnos 26-29 Hydref.

Yn ôl