Problemau teithio

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn am 6 mis arall y cyfnod y bydd llwybr ceffylau ar gau, a bydd y llwybr ar gau yn awr tan 4 Ebrill 2019.

Mae’r gorchymyn yn gwahardd mynediad, er mwyn diogelwch y cyhoedd, ar hyd y rhan o Lwybr Ceffylau 24 Llanhari sy’n cychwyn ar y ffordd rhwng Llanhari a Llanharan, gyferbyn â Gwinllan Naboth, ac sy’n mynd tua’r gorllewin am 1400 metr gan basio i’r gogledd o Goed-y-Wiw a dilyn ymyl deheuol Coed Wain-Fraith gan orffen ar y ffordd sirol.

Dylai cerddwyr ddefnyddio’r priffyrdd presennol tra bydd y llwybr ceffylau ar gau.

Yn ôl