Problemau teithio

Bydd Take That yn perfformio yn Stadiwm Principality ar 8/6/2019. Bydd ffyrdd ar gau yng nghanol y ddinas a’r cyffiniau rhwng 17:00 a chanol nos. Mae manylion y ffyrdd a fydd ar gau a’r gwasanaethau a fydd yn cael eu dargyfeirio i’w gweld isod.

Cyngor Caerdydd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau’n gynnar yn y dydd (am 7am) oherwydd yr angen i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau oherwydd yr angen i gau holl ffyrdd canol y ddinas:

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Clare Road i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Heol Saunders o’r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
  • Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
  • Heol Penarth o’r gyffordd â Heol Saunders i’r fynedfa sy’n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, y Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

 

Ychwanegiadau:

Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, a chaniateir mynediad yn unig ar gyfer parcio at ddiben y digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a chael mynediad i feysydd parcio preifat. Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys: Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

 

Noder:

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch diogelwch oherwydd bod torfeydd yn ciwio i fynd i mewn i’r lleoliad cyn bod y gatiau’n agor, mae’n bosibl y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach ac y bydd angen cau lonydd ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen wrth ymyl Gât 1. Os bydd unrhyw bryderon ynghylch diogelwch oherwydd system giwio’r Orsaf Ganolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty yn parhau ar gau nes y bydd y pryderon ynghylch diogelwch wedi pasio.

 

Trafnidiaeth Cymru

Bydd capasiti cyfyngedig ar lwybrau lleol Caerdydd a’r Cymoedd.

Bydd gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 22:00. Ar gyfer pob un o wasanaethau lleol Caerdydd a’r Cymoedd ar ôl yr amser hwn, dylech ddefnyddio gorsaf Caerdydd Canolog. 

Bydd system giwio ar waith yng ngorsaf Caerdydd Canolog ar ôl y digwyddiad. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael isod.

 

 

Bws Caerdydd:

Bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio o 17:30 tan amser y bws olaf.

 

Rhif y llwybr Man ymadael yng nghanol y ddinas 
1 a 2 ▲ Heol Pont-yr-Aes (JH)
6 (baycar) ● Heol y Tollty
8, 9 a 9C i Fae Caerdydd neu’r Pentre Chwaraeon Heol Pont-yr-Aes (JH)
8, 9 i Ysbyty’r Waun Ffordd Churchill 
11 Ffordd Churchill 
13 i Fae Caerdydd neu’r Pentre Chwaraeon Heol Pont-yr-Aes (JH)
13 i’r Ddrôp Stryd Tudor
15 Stryd Tudor
17 ac 18 Stryd Tudor
21, 23 a 24 Heol y Brodyr Llwydion
25 Stryd Tudor 
27 Heol y Brodyr Llwydion
28, 28A a 28B Heol y Brodyr Llwydion
30 Heol y Brodyr Llwydion
35 Heol y Brodyr Llwydion
44, 45, 45B Ffordd Churchill
49 a 50 Ffordd Churchill
51 Ffordd Churchill
52 Ffordd Churchill
53 Heol y Brodyr Llwydion
57 a 58 Ffordd Churchill
61  Stryd Tudor
63 a 63A Stryd Tudor
64 Stryd Tudor
66 Stryd Tudor
91 Heol y Tollty
92, 92B, 93, 94 a 94B Ddydd Llun i ddydd Sadwrn, Heol y Tollty tan 19:00 neu Stryd Tudor ar ôl 19:00 nes y bydd y ffyrdd ar agor. Ar ddydd Sul a dydd Llun Gŵyl y Banc bydd y bysiau’n cyrraedd ac yn ymadael o Stryd Tudor drwy gydol y dydd.  
95 i’r Barri Stryd Tudor
95 i Ysbyty’r Waun Heol y BrodyrLlwydion
95A, 95B Stryd Tudor
96 a 96A Stryd Tudor
X45 i gyfeiriad Llaneirwg Ffordd Churchill
X45 i gyfeiriad Parc Manwerthu Bae Caerdydd Heol Pont-yr-Aes (JH)
X59 Plas Dumfries HT (drwy gydol y dydd)
X91 Stryd Tudor

 

▲ Ar ddiwrnod y digwyddiad, ni fydd gwasanaethau rhif 1 a 2 yn gwasanaethu’r tu cefn i’r Orsaf Reilffordd Ganolog (arosfannau JM a JN) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.

● Ar ddiwrnod y digwyddiad, bydd y gwasanaeth baycar yn gweithredu rhwng canol y ddinas (Heol y Tollty – JG) a Bae Caerdydd yn unig. Ni fydd yn gwasanaethu cylch canol y ddinas na’r tu cefn i’r Orsaf Reilffordd Ganolog (arhosfan JM) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.

 

Stagecoach

Bydd pob un o fysiau Stagecoach yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion ar ôl 16:00 ddydd Sadwrn.

Bydd bysiau 122 / 124 ar ôl 16:00 yn teithio drwy Gabalfa ac NI fyddant yn gwasanaethu Heol y Gadeirlan na Heol y Castell yn ystod gweddill y dydd.

NI fydd bysiau 25 / 132 ar ôl 16:00 yn gwasanaethu Rhodfa Lloyd George a Bae Caerdydd.

Yn ôl