Wythnos yn dechrau 20 Hydref
Henffordd – Amwythig: o 02:40 ddydd Sadwrn 20 Hydref i 04:15 ddydd Llun 22 Hydref, bydd gwasanaeth bws yn gweithredu yn lle’r trenau rhwng Henffordd ac Amwythig.
Casnewydd – Henffordd: o 03:50 ddydd Sadwrn 20 Hydref i 04:15 ddydd Llun 22 Hydref, bydd gwasanaeth bws yn gweithredu yn lle’r trenau rhwng Casnewydd a Henffordd.
Cyffordd Gorllewin Llanwern – Casnewydd: o 03:50 ddydd Sadwrn 20 Hydref i 04:15 ddydd Llun 22 Hydref, bydd y prif lwybr ar gau rhwng Cyffordd Gorllewin Llanwern a Chasnewydd.Bydd y trenau’n cael eu haildrefnu ac ni fydd unrhyw wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg rhwng Caerloyw a Cheltenham. Caiff teithwyr eu cynghori i ddefnyddio gwasanaethau gweithredwr arall.
Hendy-gwyn ar Daf – Doc Penfro: o 23:20 ddydd Sadwrn 20 Hydref i 05:45 ddydd Llun 22 Hydref, bydd gwasanaeth bws yn gweithredu yn lle’r trenau rhwng Caerfyrddin a Doc Penfro.
Wythnos yn dechrau 27 Hydref
Amwythig – Caer: o 00:20 ddydd Sul 28 Hydref i 05:30 ddydd Llun 29 Hydref, bydd gwasanaeth bws yn gweithredu yn lle’r trenau rhwng Amwythig a Chaer.
Cyffordd Dyfi – Aberystwyth: o 00:15 ddydd Sul 28 Hydref i 03:50 ddydd Llun 29 Hydref, bydd gwasanaeth bws yn gweithredu yn lle’r trenau rhwng Machynlleth ac Aberystwyth.
Trefyclo – Llanwrtyd: o 22:00 ddydd Gwener 26 Hydref i 05:30 ddydd Llun 29 Hydref, bydd gwasanaeth bws yn gweithredu yn lle’r trenau rhwng Llandrindod a Llanwrtyd.